Ydi’n bosib trefnu ymarfer seremoni gyda’r cofrestrydd?
Gall ymarfer seremoni gael ei gynnal mewn adeilad wedi’i trwyddedu. Nid yw’n bosib cynnal ymarfer mewn swyddfa gofrestru. Mae cost yr ymarfer £55. I drefnu ymarfer cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000.
Beth yw pwrpas rhoi rhybudd ffurfiol?
Pwrpas rhybudd ffurfiol ydi sicrhau eich bod yn breswylydd cymwys yn y sir ac eich bod yn rhydd ac yn gyfreithlon i briodi/ymrwymo i bartneriaeth sifil.
Beth fydd yn digwydd wedi i ni roi y rhybudd ffurfiol?
Bydd y rhybudd ffurfiol yn cael ei arddangos ar hysbysfwrdd cyhoeddus y tu allan i'r Swyddfa Gofrestru ym Mangor. Bydd y Gwasanaeth Cofrestru yna’n paratoi eich tystysgrifau, sef y dogfennau sy’n rhoi awdurdod cyfreithiol i chi briodi neu yr atodlen sy’n rhoi awdurdod cyfreithiol i chi ymrwymo mewn partneriaeth sifil.
Am faint fydd y rhybudd yn ddilys?
Mae'r tystysgrifau y byddwch yn eu derbyn ar ôl rhoi’r rhybudd ffurfiol yn ddilys am flwyddyn o'r diwrnod y cafodd yr hysbysiad ei roi. Er enghraifft – pe baech yn rhoi y rhybudd ffurfiol ar 3 Hydref, 2009, bydd y tystysgrifau ar gael ar 19 Hydref 2009, a byddant yn ddilys hyd 3 Hydref, 2010.
Fydd hi'n bosib newid dyddiad y seremoni wedi i ni roi y rhybudd ffurfiol?
Gall y seremoni gael ei chynnal ar unrhyw ddyddiad o fewn y cyfnod dilys (gweler cwestiwn uchod). Bydd angen cytuno ar ddyddiad newydd gyda’r gwasanaeth cofrestru. Ffoniwch 01766 771000.
Fydd hi'n bosib newid lleoliad y seremoni wedi i ni roi y rhybudd ffurfiol?
Os byddwch yn penderfynu newid lleoliad y seremoni wedi i chi roi y rhybudd ffurfiol, ni fydd eich tystysgrifau yn ddilys. Bydd rhaid cyflwyno rhybudd ffurfiol newydd a thalu'r ffioedd y byddwch wedi eu talu yn barod eto. Cysylltwch â ni ar 01766 771000.
Oes rhaid i mi fyw yn yr ardal ble byddaf yn rhoi fy rhybudd ffurfiol?
Oes. Mae’n rhaid i chi fod wedi byw yn yr ardal ble byddwch yn rhoi eich rhybudd ffurfiol am o leiaf 7 diwrnod cyn rhoi eich rhybudd ffurfiol.
Rydw i’n byw y tu allan i Gymru / Lloegr ond am briodi yng Ngwynedd. Beth ddylwn i ei wneud?
Cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000
All rhywun arall roi rhybudd ffurfiol ar fy rhan?
Na - nid oes gan unrhyw un arall hawl i roi hysbysiad ar eich rhan. Bydd yn rhaid i'r 2 ohonoch fynychu.
Pa ddogfennau fyddwn ni eu hangen er mwyn rhoi ein rhybudd ffurfiol?
Byddwch angen i chi ddod â:
- Unai pasbort neu dystysgrif geni NEU unrhyw 2 o’r canlynol: trwydded yrru lawn, dogfen rhent neu dreth cyngor, papur cyflog, llyfr siec, cerdyn credyd
- Prawf o'r cyfeiriad lle rydych yn byw: dogfen rhent neu dreth cyngor, bil gwasanaeth cyhoeddus diweddar/datganiad banc
- Statws priodasol / partneriaeth sifil (os yn berthnasol)
- mewn achos ysgariad/gwahanu – tystysgrif archddyfarniad terfynol
- mewn achos profedigaeth – tystysgrif marwolaeth y cyn bartner
Mae'r rhestr uchod yn cyfeirio'n benodol at ddinasyddion y Deyrnas Unedig. Os oes un ohonoch yn ddinesydd o wlad arall a/neu wedi cael ysgariad mewn gwlad arall, dylech holi'r Gwasanaeth Cofrestru cyn trefnu apwyntiad i roi rhybudd ffurfiol.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn ar y tudalennau hyn, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000.