Priodi mewn Eglwys
Os ydych am briodi yn un o adeiladau'r Eglwys yng Nghymru, dylech gysylltu â Ficer yr Eglwys dan sylw. Nid oes angen i chi gysylltu gyda Chyngor Gwynedd. Mae rhagor o wybodaeth am drefniadau priodi mewn eglwys ar gael ar wefan Yr Eglwys yng Nghymru.
Priodi mewn capel
Mae'r wybodaeth isod yn berthnasol i briodasau yng Nghymru a Lloegr. Os ydych yn priodi y tu allan i Gymru neu Loegr, cysylltwch â ni am arweiniad. Ffoniwch 01766 771000.
Gyda phwy ydym ni angen cysylltu?
Mae'r trefniadau yn ddibynnol ar ble rydych chi a'ch partner yn byw, a ble byddwch yn priodi:
- os ydi'r 2 ohonoch yn byw yng Ngwynedd
Byddwch angen trefnu apwyntiad i'r 2 ohonoch fynd draw i un o swyddfeydd cofrestru Gwynedd i roi rhybudd ffurfiol o'r briodas. I drefnu apwyntiad, ffoniwch 01766 771000. - 1 ohonoch yn byw yng Ngwynedd a'r llall y tu allan i Wynedd
Bydd angen i'r person sy'n byw y tu allan i Wynedd gysylltu â gwasanaeth cofrestru eu Cyngor lleol i roi eu rhybudd ffurfiol. Bydd angen i'r person sy'n byw yng Ngwynedd drefnu apwyntiad i fynd draw i un o swyddfeydd cofrestru Gwynedd i roi rhybudd ffurfiol. I drefnu apwyntiad, ffoniwch 01766 771000 - y 2 ohonoch yn byw y tu allan i Wynedd ond am gynnal y seremoni yng Ngwynedd
Byddwch angen cysylltu gyda gwasanaeth cofrestru Gwynedd i drefnu dyddiad y seremoni. Byddwch yna angen cysylltu gyda gwasanaeth cofrestru eich Cyngor lleol i roi eich rhybudd ffurfiol. I gysylltu â gwasanaeth cofrestru Gwynedd, ffoniwch 01766 771000.
Byddwch hefyd angen trefnu gyda'r gwasanaeth cofrestru yn yr ardal ble bydd y briodas yn cael ei chynnal fod cofrestrydd yn bresennol yn y seremoni. Os yn cynnal y seremoni yng Ngwynedd, ffoniwch 01766 771000.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y cwestiynau ac atebion - priodas.
Pryd ddylwn i gysylltu?
Gallwch gysylltu i drefnu dyddiad ar gyfer y briodas gyda'r gwasanaeth cofrestru unwaith y byddwch wedi penderfynu eich bod am briodi. Fodd bynnag, bydd rhaid cyflwyno y rhybudd ffurfiol o fewn 12 mis i ddyddiad y briodas. Rydym yn eich cynghori i gysylltu mewn da bryd. Bydd dyddiad y seremoni yn cael ei chadarnhau unwaith y bydd y rhybudd ffurfiol wedi ei roi.
Wedi chi gyflwyno y rhybudd ffurfiol bydd rhaid aros am o leiaf 15 diwrnod clir rhwng y dyddiad pan rydych yn cyflwyno'r rhybudd ffurfiol a'r diwrnod y cewch gynnal y briodas. Er enghraifft - pe baech yn rhoi rhybudd ffurfiol o briodas ar y 1af o'r mis, y dyddiad cynharaf y gallwch gynnal y briodas yw'r 17eg o'r mis hwnnw).
I drefnu apwyntiad i roi hysbysiad ffoniwch 01766 771000.
Cais brys
Mewn amgylchiadau arbennig, er enghraifft os yw person yn ddifrifol wael, bydd yn bosib cyflwyno cais i briodi ar frys. Mae'n bosib y bydd y ffioedd yn amrywio yn yr achosion hyn. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000.
Cost
Mae ffi yn daladwy am roi rhybudd priodas, am y seremoni ac am eich tystysgrif priodas:
- £35.00 (yr un) - rhybudd ffurfiol
- £84.00 - seremoni a chofrestru
- £4.00 - tystysgrif priodas
Ffioedd Cyngor Gwynedd yw'r rhain. Os byddwch yn rhoi eich rhybudd neu yn cynnal y seremoni mewn ardal arall mae'n bosib y bydd y costau yn amrywio.
Sut mae talu?
Bydd angen talu'r ffi am gyflwyno rhybudd ffurfiol yn ystod yr apwyntiad. Gallwch dalu gweddill yr arian unai i'r cofrestrydd pan fyddwch yn cwrdd o flaen llaw i drafod y seremoni mewn manylder neu ar ddiwrnod y seremoni. Gallwch dalu gydag arian parod, archeb bost neu siec yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd'.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen cwestiynau ac atebion - priodas neu cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000.