Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Budd-daliadau a Chyngor > Priodasau a Phartneriaethau Sifil
 

Seremoni ailddatgan addunedau

Mae seremoni ailddatgan addunedau yn gyfle i gyplau sydd wedi priodi neu wedi ymrwymo mewn partneriaeth sifil i ailddatgan eu addunedau. Nid oes gan y seremonïau hyn statws cyfreithiol. 

Bydd cofrestrydd yn cynnal y seremoni ar eich cyfer a byddwch yn derbyn tystysgrif goffäol. 

Mae'n bosib cynnwys eich dewis o ddarlleniadau a cherddoriaeth yn y seremoni. Ond, nid yw'n bosib cynnwys darlleniadau na cherddoriaeth grefyddol.


Sut mae trefnu seremoni ailddatgan addunedau?
Cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000.



Ble allwn ni gynnal seremoni ailddatgan addunedau?
Mae’n bosib cynnal seremoni ailddatgan addunedau mewn:


Faint fydd y seremoni yn ei gostio?

  • Mewn ystafell seremoni - swyddfa gofrestru: £123.00 (yn cynnwys TAW)
  • Mewn gwesty neu eiddo wedi'i gymeradwyo: £184.50 (yn cynnwys TAW)

Bydd blaendal o £30 yn daladwy. Ni fydd modd ad-dalu'r arian hwn.



Pryd a sut mae talu?
Bydd angen talu blaendal o £30 er mwyn cadarnhau'r dyddiad a'r lleoliad gyda'r gwasanaeth cofrestru. Gallwch dalu gweddill yr arian unai i'r cofrestrydd pan fyddwch yn cwrdd o flaen llaw i drafod y seremoni mewn manylder, neu ar ddiwrnod y seremoni. Gallwch dalu gydag arian parod, archeb bost neu siec yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd'.


Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01766 771000.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 30/03/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]