Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2010 > Ionawr
 

Dathlu doniau creadigol defnyddwyr llyfrgelloedd Gwynedd

Ennillwyr cystadleuaeth llyfrgelloedd Gwynedd
Ennillwyr cystadleuaeth llyfrgelloedd Gwynedd

Mae tri enillydd lleol wedi ennill £50 yr un yn y gystadleuaeth genedlaethol gyntaf un i lyfrgelloedd - Mynegwch Eich Hun.

Mae Iwan Roberts, 8 oed, o Ysgol Cymerau, Pwllheli, grŵp o ddisgyblion blwyddyn 8 yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes a Joan Harris o Ddolgellau wedi ennill £50 o dalebau'r stryd fawr yr un.

Enillodd Iwan gyda ffilm fer wedi ei animeiddio; daeth Martha, Elin, Mared, Megan a Lois o Ysgol Dyffryn Nantlle i'r brig gyda sgript ddrama fer, a Joan Harris gyda cherdd.

Dywedodd Nia Gruffydd o wasanaeth Llyfrgell Cyngor Gwynedd:

"Rydym wrth ein bodd gyda'r ymateb ac fe gawsom ni amser gwych yn beirniadu'r ceisiadau. Roedd rhai yn gwneud i ni chwerthin, rhai yn ein gwneud ni drafod yn frwd ac ambell un braidd yn od!

"Roeddem yn hapus iawn gydag ansawdd y ceisiadau at ei gilydd, ac a gaf fi ddiolch o galon i holl aelodau staff y llyfrgelloedd a fu'n hyrwyddo'r gystadleuaeth mewn ffordd mor arbennig."

Fe wnaeth Mynegwch Eich Hun annog pawb o bob oed i ddangos eu doniau creadigol dan thema gyffredinol 'llyfrgelloedd'. Bu Gwasanaethau Llyfrgelloedd o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth a daeth cyfanswm o 1500+ cais i law trwy Gymru gyfan.
 
Ychwanegodd Ruth Jones, seren y rhaglen deledu boblogaidd Gavin & Stacey, sy'n cefnogi'r ymgyrch:

"Mae'n ffantastig fod cynifer o bobl wedi cymryd rhan - mae hyn yn dangos ein bod ni'n genedl mor greadigol! Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld gwaith y rhai sydd yn y rownd derfynol a chyflwyno'r gwobrau ym mis Chwefror."

Bydd yr enillwyr lleol i gyd yn mynd ymlaen i'r rowndiau cenedlaethol ble bydd deunaw yn cael eu dewis a'u gwahodd i seremoni wobrwyo arbennig ar 25 Chwefror a chael cyfle i ennill £500.

Mae cystadleuaeth Mynegwch Eich Hun yn rhan o'r ymgyrch farchnata genedlaethol ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae'n rhan ganolog o Lyfrgelloedd am Oes, sef strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru.

Am ragor o fanylion am y gystadleuaeth ewch i http://llyfrgell.cymru.org/gwynedd/cystadleuaethgelf/ neu ffoniwch 01286 679465.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 27/01/2010
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]