Mae Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd yn cynnal ei chynhadledd flynyddol ar y thema ‘Sut i arbed arian ac arbed yr amgylchedd’ ar nos Fercher, 27 Ionawr 2010 am 6pm yn Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog. Mae’r gynhadledd yn agored i unrhyw un fynychu ac yn rhad ac am ddim.
Bydd y gynhadledd yn darparu gwybodaeth ar sut gall unigolion wneud eu rhan i arbed yr amgylchedd a rhwystro newid hinsawdd, gan arbed arian yr un pryd. Ceir gwybodaeth hefyd ar sut i arbed cannoedd ar eich bil trydan, sut i gynhyrchu ynni eich hun, sut gall tyfu bwyd arbed arian mawr a llawer mwy.
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael a cheir cyfle i ennill coed afalau Enlli. Am fwy o wybodaeth ewch i
www.pagwynedd.org neu i archebu lle ffoniwch 01286 679652 neu e-bostio:
PartneriaethAmgylcheddol@gwynedd.gov.uk