Mae arddangosfa newydd yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor
O 16 Ionawr hyd 20 Chwefror yn gyfle unigryw i weld casgliad preifat Gerrion Jones o ddelweddau gan Jamie Reid, Jimmy Cauty, Billy Childish ac eraill sy’n dangos sut mae pync wedi esblygu ers 1976 gan roi i chi “Punk Am Byth”.
Mae Gerrion Jones, a elwir hefyd yn “Wacky”, wedi byw trwy gyfnod pync o 1976 hyd heddiw. Ei syniad gwreiddiol o oedd arddangos ei gasgliad mewn arddangosfa am dridiau yng Ngholeg Merthyr Tydfil, ond gydag ymateb mor bositif, fe’i hymestynnwyd i chwe wythnos. Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yw’r ganolfan gelf gyntaf i ddangos y casgliad.
Dywedodd Esther Roberts, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gwynedd:
“Mae’r arddangosfa hon yn gyfle unigryw i weld casgliad preifat o bosteri, peintiadau a delweddau poblogaidd sy’n ystyried materion diwylliannol hynod bwysig yn ein hanes modern. Rydym yn gobeithio y bydd nifer o bobl yn dod draw i fwynhau’r arddangosfa ac y bydd yn denu cynulleidfa newydd.
“Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan artistiaid nodedig ym myd Pync.”
Mae Jamie Reid yn enwog am ei gynlluniau ar gyfer cloriau recordiau “God Save the Queen” a “Never Mind the B****cks” gan y Sex Pistols sydd bellach yn eiconau diwylliedig ac mae ei dechneg o ddefnyddio “copi a phastio” yn cael ei gopïo drwy’r byd i gyd. Yn ei weithiau mae’n cyfuno gwleidyddiaeth, yr elfen ysbrydol a diwylliant gan yn aml greu gwaith celf sy’n tanlinellu protest cymdeithasol neu baentiadau haniaethol hardd iawn. Mae hefyd wedi cyd-weithio gyda’r Afro Celt Sound System, Yr Anhrefn, Stiwdio Strongroom yn Llundain a’r Magic Room yn Brighton.
Adnabyddir Jimmy Cauty fel un o gyd-sylfaenwyr y grŵp cerddorol y KLF gyda Bill Drummond ac yn ddiweddarach y K Foundation (deuawd celfyddydol). Yn 1994, llosgodd y K Foundation miliwn o bunnoedd ar Ynys Jura yn yr Alban. Jimmy a Bill oedd wedi ennill yr arian drwy eu gwaith fel y KLF. Mae Jimmy hefyd wedi creu gwaith celf radicalaidd, sy’n ymateb i’r byd o’i gwmpas yn enwedig diwylliant cyfoes ac mae’n cynnwys elfen o gomedi tywyll.
Mae Billy Childish yn ffigwr cwlt gyda dilyniant yn America, Ewrop a Siapan ac mae’n artist hynod o anarferol a chynhyrchiol. Mae ganddo ddiddordeb diflino mewn themâu amrywiol iawn fel rhyfel, yr amgylchedd a gwrthdystiad cymdeithasol. Yn ogystal mae wedi creu paentiadau sy’n dangos teyrnged i arlunwyr enwog eraill fel Van Gogh. Ymysg y rhai sy’n wedi mwynhau ei waith mae Kurt Cobain (Nirvana), Jack White (The White Stripes) a Shane MacGowan (The Pogues).
Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys posteri sy’n dangos “The Sex Pistols”, “The Clash”, “Killing Joke”, “The Damned” a Siouxsie.
Am ragor o fanylion am gefndir yr arddangosfa ewch i wefan: punkforever.co.uk
Trefnir gweithgareddau i gyd fynd â’r arddangosfa. Manylion llawn i ddilyn ond bydd yn cynnwys digwyddiadau gyda Jamie Reid, Viv Albertine (gynt o fand y Slits), Rhys Mwyn (Yr Anrhefn), noson gyfweld yn y Gymraeg, yn ogystal â digwyddiad ar y cyd gyda Recordiau’r Cob.
Hefyd yn Oriel 2 Amgueddfa ac Oriel Gwynedd cynhelir arddangosfa “Gadael yr Ugeinfed Ganrif”, sef ffotograffau o flynyddoedd olaf y mileniwm diwethaf gan Peter Telfer. Mae’n cynnwys delweddau o grwpiau o’r sin roc Gymraeg a digwyddiadau byd eang eraill. Mae Peter Telfer yn rhan o safle rhwydweithiol diwylliant newydd sef “Culture Colony – Y Wladfa Newydd”. Am ragor o wybodaeth gweler www.culturecolony.com
Mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener rhwng 12.30pm a 4.30pm, ac ar ddydd Sadwrn rhwng 10.30am a 4.30pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.