Mae'n anghyfreithlon cynnal busnes deliwr metel sgrap heb gofrestru gyda’r Cyngor. Mae angen i ddeliwr metel sgrap gofrestru gyda’r Cyngor:
- os oes ganddo storfa metel sgrap yn yr ardal
- os oes ganddo gyfeiriad busnes metel sgrap yn yr ardal
- os yw’n byw yn yr ardal.
Rhaid i ddeliwr metel sgrap cofrestredig hysbysu'r awdurdod lleol o fewn 28 diwrnod os oes unrhyw newid yn y manylion a roddwyd i'r Cyngor, neu os yw'n darfod gweithredu fel deliwr metel sgrap. Mae cofrestriad yn parhau am dair blynedd.
Mae cofnod cyhoeddus o ddelwyr metel sgrap trwyddedig Gwynedd ar gael i’w weld yn ein swyddfeydd yng Nghaernarfon (Penrallt), Pwllheli (Ffordd y Cob) a Dolgellau (Cae Penarlâg).
Cofrestru
Mae ffurflen cais ar gyfer cofrestru ar gael yma.
Am fwy o fanylion, ffoniwch 01766 771000.
Cofnod o ddeliadau
Rhaid i ddeliwr metel sgrap gadw’r cofnodion canlynol ym mhob storfa metel sgrap:
(a) Yr holl fetel sgrap a dderbyniwyd yn y lle hwnnw, gan gynnwys:
- disgrifiad o'r metel sgrap a’r pwysau
- y dyddiad ac amser y derbyniwyd y metel sgrap
- enw llawn a chyfeiriad y person hwnnw os yw'r metel sgrap yn cael ei dderbyn oddi wrth berson arall
- y pris, os o gwbl, sy'n daladwy mewn perthynas â derbyn y metel sgrap, os yw'r pris yn wybyddus ar yr adeg pan fo’r cofnod yn cael ei wneud. Os nad oes pris i’w dalu, amcangyfrif o werth y metel sgrap ar yr adeg pan fydd y cofnod yn cael ei wneud.
- yn achos metel sgrap a ddanfonir mewn cerbyd, y rhif cofrestru.
(b) Yr holl fetel sgrap a broseswyd yn y lle hwnnw neu a anfonwyd ohono, gan gynnwys:
- disgrifiad o'r metel sgrap a’r pwysau
- dyddiad y prosesu a’r broses a ddefnyddiwyd, neu fel arall dyddiad anfon y metel sgrap
- os anfonwyd metel sgrap am ei fod wedi cael ei werthu neu ei gyfnewid, enw llawn a chyfeiriad y prynwr neu’r sawl sy’n cyfnewid
- os proseswyd neu anfonwyd metel sgrap heblaw drwy werthu neu gyfnewid, gwerth y metel sgrap yn union cyn ei brosesu / anfon fel yr amcangyfrifodd y deliwr.
Rhaid nodi’r manylion yn syth ar ôl derbyn, prosesu neu anfon y metel, a rhaid cadw’r cofnod mewn llyfr am gyfnod o ddwy flynedd o'r cofnod diwethaf. Ni chaniateir defnyddio mwy nag un llyfr ar gyfer pob math o gofnod, h.y. (a) neu (b) uchod.
Gall casglwr teithiol wneud cais i'r Cyngor am eithriad cyfyngedig rhag y gofyn i gadw cofnodion.
Lle nad oes gan ddeliwr metel sgrap storfa ac nad oes ganddo eithriad cyfyngedig rhag y gofynion i gadw cofnodion, bydd gofyn iddo gadw cofnodion fel y disgrifir uchod. Ond dylai'r cofnodion gael eu cadw yn lleoliad arferol y busnes delio metel sgrap a dylai’r pris a'r holl fanylion eraill gael eu cofnodi cyn gynted ag y bo modd.
Hawliau mynediad
Mae gan unrhyw heddwas hawl i archwilio adeiladau cofrestredig, unrhyw gofnodion a gedwir ar y safle ac unrhyw fetel sgrap a gedwir yno, ar bob adeg resymol.
Bydd gan Swyddog o'r awdurdod lleol (gydag awdurdodiad ysgrifenedig) hawl mynediad er mwyn sefydlu a yw adeilad yn cael ei ddefnyddio fel storfa metel sgrap yn groes i Adran 1 o'r Ddeddf.
Troseddau
Mae’n anghyfreithlon:
- peidio â chofrestru'r busnes neu hysbysu’r Cyngor o newidiadau yn y manylion priodol. Uchafswm dirwy: £1,000.
- peidio â hysbysu'r Cyngor fod deliwr wedi gorffen gweithredu fel deliwr metel sgrap. Uchafswm dirwy: £200.
- peidio â chadw cofnodion o ddeliadau fel rhagnodir. Uchafswm dirwy: £1,000.
- derbyn metel sgrap oddi wrth berson dan 16 oed. Uchafswm dirwy: £200.
- i unrhyw berson sy’n gwerthu metel sgrap i ddeliwr metel sgrap roi enw neu gyfeiriad ffug. Uchaf dirwy: £200.
- rhwystro swyddog awdurdodedig neu beidio â dangos unrhyw lyfr neu ddogfen y mae gan y swyddog hwnnw hawl i’w archwilio. Uchafswm dirwy: £200.
Diffiniadau
Casglwr teithiol: person sy'n casglu deunyddiau gwastraff yn rheolaidd drwy ymweld â thai. Gan amlaf mae’r eitemau yn hen, wedi torri neu wedi difetha.
Metel sgrap: hen fetel, gwastraff metel, ac unrhyw eitem sydd wedi torri neu ddifetha a wnaed i gyd neu’n rhannol o fetel. Mae hefyd yn cynnwys blaenau tŵls neu liwurau a wnaed o ddeunyddiau a adnabyddir fel metel caled, neu o garbidau metelig o ddeunydd smentio neu sinter.
Storfa metel sgrap: man lle mae metel sgrap yn cael ei dderbyn neu ei gadw fel rhan o fusnes deliwr metel sgrap.