Oherwydd llwyddiant wrth gyrraedd targedau cenedlaethol, mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau £1.3 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer gwasanaethau lleol.
Fel rhan o gytundeb gwella gyda Llywodraeth y Cynulliad, roedd y Cyngor wedi gosod nifer o dargedau allweddol er mwyn sicrhau gwelliannau yn ystod 2008/09. Roedd amrywiaeth eang o dargedau - o ddarparu cartref plant newydd i gynyddu'n sylweddol y nifer o adolygiadau glendid bwyd mewn busnesau risg uchel a llunio cynllun lleihau carbon ar gyfer adeiladau'r Cyngor.
Mae asesiad annibynnol gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi dangos fod Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i ddarparu'r gwasanaethau roedd wedi ymrwymo iddynt. O ganlyniad, mae'r Cyngor wedi derbyn Grant Cytundeb Gwella llawn o £1.3 miliwn.
Wrth groesawu'r newyddion da, dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards:
"Fel Cyngor, rydym wedi gorfod wynebu llawer o benderfyniadau hynod o anodd. Mae'r cyhoeddiad yma, felly, yn hwb amserol ac rydym yn ei groesawu yn fawr.
"Rydw i'n hynod falch o'r llwyddiant yma sy'n dangos fod y Cyngor yn darparu gwelliannau gweledol i bobl Gwynedd, hyd yn oed ar gyfnod dyrys pan rydym yn wynebu toriadau.
"Hoffwn dalu teyrnged i'r aelodau arweiniol a'r holl swyddogion ar wahanol lefelau o fewn y Cyngor sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant yma."