Cafodd y Cynghorydd Dyfed Edwards ei enwi yn Wleidydd Lleol y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwleidydd Cymreig y Flwyddyn y Wales Yearbook.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo a chinio mawreddog yn Neuadd y Ddinas Caerdydd yr wythnos ddiwethaf a darlledwyd y digwyddiad gan ITV Wales.
Bwriad Gwobrau Gwleidydd y Flwyddyn yw cydnabod cyfraniad Aelodau Seneddol, Aelodau Seneddol Ewropeaidd, Aelodau Cynulliad, gwleidyddion lleol a gweithredwyr dros achosion arbennig, gwaith pwyllgorau, gwaith craffu parhaol, rhoi sylw i faterion lleol neu gyfuniad o’r gweithgareddau hyn dros y 12 mis diwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Rwyf yn cyfri'r wobr yma fel anrhydedd ar gyfer Cyngor Gwynedd gyfan - yn swyddogion ac yn aelodau o bob plaid ac yn gydnabyddiaeth ein bod yn benderfynol o geisio gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl Gwynedd mewn cyfnod heriol tu hwnt."
Ychwanegodd Cadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Anne Lloyd-Jones:
“Ar ran Cyngor Gwynedd hoffwn longyfarch y Cynghorydd Dyfed Edwards ar ennill y wobr hon. Mae’n adlewyrchu ei ymrwymiad a’i waith caled a hyderaf y bydd yn tynnu sylw at y cydweithio sydd yn digwydd yma yng Ngwynedd.”
Mae’r Cynghorydd Edwards wedi ei gydnabod gan y panel beirniaid am ei fedrau fel arweinydd.
Enillwyr eraill eleni oedd y Prif Weinidog newydd Carwyn Jones AC (Gwleidydd Cymreig y Flwyddyn); David Melding AC (Aelod Addawol); Albert Owen AS (Ymgyrchydd y Flwyddyn); Paul Flynn AS (Aelod Seneddol y Flwyddyn); ac Elin Jones AC (Aelod Cynulliad y Flwyddyn).