Mae'n ymddangos bod talwyr treth gyngor yn y ddwy sir wedi derbyn galwad ar hap yn cynnig cymorth i hawlio ad-daliad o dreth cyngor a or-dalwyd, gan ofyn am fanylion manylion cyfrif personol y trigolyn.
Mae Cyngor Gwynedd yn pwysleisio mai achos o dwyll sydd yma, gydag ymdrech i gael pobl i ddatgelu eu manylion banc personol. Ni ddylai trigolion sy’n derbyn y fath alwad rannu eu manylion personol.
Ychwanegodd Martin Wyn Jones o Safonau Masnach Ynys Môn, "Mae twyllwyr wastad yn chwilio am ffyrdd newydd i dwyllo pobl, ac mae’n ymddangos mai dyma’r ffordd ddiweddaraf. Mae galwadau dirybudd yn gallu achosi i rywun ymateb yn ddiofal ar brydiau, ond ein cyngor yw cysylltu â’ch safonau masnach leol os ydych yn ansicr am unrhyw alwad ffôn."
Gallwch gysylltu â Safonau Masnach Ynys Môn ar (01248) 752840 neu drwy fynd i dudalen Safonau Masnach ar ein gwefan.