Mae Partneriaeth Economaidd Gwynedd (PEG) yn hwyluso cydweithio er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i bobl, cymunedau a busnesau Gwynedd ac yn cadw golwg ar y Cronfeydd Ewropeaidd sy'n weithredol yn y sir, gan gynnwys y Rhaglen Cydgyfeiriant. Mae PEG hefyd yn hybu datblygiad economaidd Gwynedd yn gyffredinol, ac yn wyneb yr ansicrwydd economaidd byd-eang presennol, mae'r rôl yma'n bwysicach nag erioed.
Ar hyn o bryd mae PEG yn gyfrifol am arwain ar Gynllun Datblygu Gwledig Cymru yn lleol, sef Llwyddo Yng Ngwynedd.
Ers ei sefydlu yn 2000, mae PEG wedi sicrhau bod dros £75 miliwn o arian Ewrop wedi ei fuddsoddi yng Ngwynedd.
Mae Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd yn cynnig arweiniad i PEG ac yn Ysgrifenyddiaeth i'r Bartneriaeth.
Pwy sy'n gallu ymaelodi efo'r Bartneriaeth?
Mae aelodaeth PEG yn agored i unigolion sy'n byw neu'n gweithio yng Ngwynedd ac i sefydliadau gyda diddordeb yn nyfodol yr ardal. Mae gan PEG dros gant o aelodau ar hyn o bryd.
Bwletinau Gwybodaeth
Mae Gwasanaeth Strategaeth a Datblygu’r Adran Economi a Chymuned yn anfon bwletinau gwybodaeth allan yn rheolaidd. Ceir gwybodaeth am nifer o agweddau Rhaglenni Ariannu Ewropeaidd mewn amryw o feysydd, ynghyd â diweddariadau am waith y Bartneriaeth a digwyddiadau lleol.
Ewch i’r dudalen ganlynol i ddarganfod mwy am ymaelodi â’r Bartneriaeth neu i gofrestru i dderbyn Bwletinau Gwybodaeth:
http://www.economigwynedd.info/newsletter__join-11.aspx
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01286 679 343
Ebost: peg@gwynedd.gov.uk
Safle wê: www.economigwynedd.info
Rhadbost RSJK-XYXS-LAKA
Partneriaeth Economaidd Gwynedd
D/O Adran Economi a Chymuned
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
ATODIADAU