Oes gennych chi syniad am fusnes neu fenter newydd?
Gallwch dderbyn cymorth drwy gynllun Llwyddo yng Ngwynedd er mwyn troi eich syniad yn realiti.
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth, bydd rhaid i chi fod yn byw yng Ngwynedd wledig (y Sir i gyd ag eithrio Dinas Bangor).
Gweithdai Bwtcamp Busnes
Bydd cyfle i bobl ar draws Gwynedd fynychu cyfres o weithdai "Bwtcamp Busnes" i'w annog i fentro i fyd busnes. Cynhelir y sesiynau dwy awr mewn busnesau gwahanol ar draws y Sir. Bydd y gweithdai Bwtcamp yn defnyddio dulliau arloesol i annog unigolion i agor ei meddyliau ac adnabod cyfleoedd newydd yn seiliedig ar ei diddordebau, sgiliau ac adnoddau. O hyn bydd modd cael mynediad at gyngor busnes un wrth un a chymorth ariannol. Am ragor o fanylion ewch i wefan Galluogi.
Mae Llwyddo yng Ngwynedd yn cael ei weithredu drwy 4 prosiect a fydd yn weithredol hyd at Rhagfyr 2013:
- Galluogi
(Noder fod grantiau ar gyfer y meysydd twristiaeth wledig a economi wledig wedi cael eu clustnodi yn llawn. Mae cymorth ariannol yn parhau ar gael o fewn y potyn teuluoedd fferm, ar gyfer aelodau o deuluoedd fferm sydd eisiau arallgyfeirio o amaeth.)
Economi cefn gwlad, twristiaeth wledig a theuluoedd fferm - mae'r cynllun yn cynnig cymorth ymarferol i fusnesau newydd, busnesau bach sydd eisoes yn bodoli ond am fentro i faes newydd, neu grwpiau cymunedol. Mae'r gefnogaeth ar gael yn cynnwys:
- cymorth ymarferol i ddatblygu sgiliau a mentora
- cymorth ariannol hyd at £50,000 (hyd at 50% o gyfanswm gwerth y prosiect)
- cymorth i ddatblygu syniadau twf
-
Pecynnu'r Profiad
Bydd y prosiect hwn yn darparu cymorth i gymunedau lleol wella a manteisio ar amgylchedd, naws a rhinweddau arbennig eu bro er mwyn datblygu pecynnau newydd o brofiadau i ymwelwyr yn seiliedig ar yr asedau hyn. Bydd cefnogaeth ymarferol ac ariannol (hyd at £10,000 a hyd at 80% o gyfanswm gwerth y prosiect) yn cael ei ddarparu i 15 ardal yn y sir adnabod, datblygu a marchnata'u cymuned i ymwelwyr. Bydd yr ardaloedd yn cael eu dewis drwy law proses cystadleuol agored.
-
Cynhyrchion Lleol
Bydd y prosiect hwn yn rhoi cymorth i fusnesau cynhyrchu lleol, prun ai'n fusnesau bwyd a diod neu'n gynhyrchwyr crefftau neu'n weithgynhyrchwyr i ddatblygu cynnyrch o safon ac i ddatblygu cadwyni cyflenwi i gyrraedd marchnadoedd presennol a newydd. Gwaith i gynnwys:
- sesiynau hyfforddi
- cymorth un i un
- cymorth ariannol i grwpiau o gynhyrchwyr, proseswyr a chyflenwyr sydd am dreialu ffordd newydd o gyrraedd eu marchnad / marchnadoedd newydd (hyd at £20,000 a hyd at 80% o gyfanswm gwerth y prosiect)
-
Cymunedau Cynaliadwy
Prosiect arloesol fydd yn torri tir newydd yn datblygu iechyd economaidd a safon bywyd yng nghymunedau gwledig Gwynedd mewn ffordd gynaliadwy. Bydd y cynllun yn darparu cefnogaeth ddwys i bump o gymunedau peilot yn y sir er mwyn:
- Cynnal awdit o'u hasedau ffisegol, naturiol a diwylliannol
- Bwrsariaeth gwerth £3,500 (hyd at 100%) i'r 5 Cymuned i gomisiynu astudiaeth dichonoldeb
- Cymorth i ddatblygu syniadau
- Cymorth ariannol (uchafswm o £80,000, hyd at 80% gwerth y prosiect i bob cymuned) ar gyfer gweithredu'r syniadau
Bwriad y cynllun yw datblygu cynlluniau i gynyddu cynaladwyedd hirdymor eu bro gan gynyddu gallu pobl leol i barhau i fyw a gweithio yn yr ardal drwy, er enghraifft; rannu asedau cymunedol, darganfod dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau, datblygu cyfleoedd gwaith lleol, ayyb.
Bydd y pum cymuned ledled Gwynedd yn cael eu dewis drwy law proses cystadleuol rhwng Mai a Medi 2011.
- Darganfod
Dyma brosiect ar y cyd rhwng Môn a Gwynedd, sy'n anelu i adeiladu ar lwyddiant y prosiect Darganfod Gwynedd (2009-2011). Bydd y prosiect yn cynnwys:
-
Cyfres o ddigwyddiadau a sesiynau natur a bywyd gwyllt (bydd rhai sesiynau wedi eu teilwra ar gyfer plant dan 10 oed, pobl ifanc 16-30 oed a busnesau twristiaeth)
-
Datblygu gwefannau Darganfod Gwynedd a Darganfod Môn, yn canolbwyntio ar hyrwyddo natur a bywyd gwyllt y ddwy sir fel arf twristiaeth.
Am ragor o wybodaeth, neu i drafod eich syniad am fusnes neu fenter newydd, cysylltwch â thîm Llwyddo yng Ngwynedd ar LlwyddoyngNgwynedd@gwynedd.gov.uk neu 01286 679358.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu trwy'r Gynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 Llywodraeth Cynulliad Cymru.