Drwy brynu tocyn parcio blynyddol gallwch barcio am ddim yn rhai o feysydd parcio’r Cyngor.
Mae tocyn parcio blynyddol yn costio:
- £100 y flwyddyn i drigolion, busnesau a sefydliadau Llywodraethol Gwynedd
- £200 y flwyddyn i drigolion, busnesau a sefydliadau Llywodraethol o’r tu allan i Wynedd
Bydd y tocyn parcio blynyddol yn eich galluogi i barcio yn rhai o feysydd parcio arhosiad hir y Cyngor am hyd at 12 awr (mewn unrhyw gyfnod o 24 awr). Gall pobl dros 60 mlwydd oed hefyd barcio yn y meysydd parcio arhosiad byr (am hyd at 2 awr mewn unrhyw gyfnod o 24 awr).
Gellir gweld rhestr o'r meysydd parcio yn y telerau ac amodau: tocyn parcio blynyddol.
Mae tocyn blynyddol yn ddilys rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth yn flynyddol.
Os na allwch ddod o hyd i ateb i'ch cwestiwn am docyn parcio blynyddol ar y dudalen hon, edrychwch ar y cwestiynau a ofynnir yn aml: tocyn parcio blynyddol.
Prynu tocyn parcio blynyddol
Er mwyn prynu tocyn parcio blynyddol, ffoniwch 01766 771000 neu lawrlwythwch y ffurflen gais.
Adnewyddu tocyn parcio blynyddol
Mae tocyn parcio blynyddol yn ddilys rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth yn flynyddol. Byddwch yn derbyn llythyr atgoffa yn ystod mis Chwefror / Mawrth, a bydd cyfarwyddiadau yn y llythyr yn egluro sut mae adnewyddu eich tocyn.
Os na fyddwch yn derbyn llythyr am ba bynnag reswm, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000 er mwyn adnewyddu (byddwch angen rhif eich tocyn parcio blynyddol).
Wedi colli tocyn parcio blynyddol
Os ydych wedi colli eich tocyn parcio blynyddol, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000. Bydd ffi o £20 er mwyn derbyn tocyn newydd
Newid manylion ar docyn parcio blynyddol
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newid i’ch manylion - er enghraifft, newid rhif cofrestru’r car neu eich cyfeiriad. Cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000. Bydd ffi o £10 er mwyn newid y manylion.
Ymholiad parcio neu gwyn
Os nad ydych wedi dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn ar y dudalen hon, edrychwch ar y dudalen cwestiynau a ofynnir yn aml: tocyn parcio blynyddol
Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen ar-lein i gyflwyno ymholiad cyffredinol neu gwyn am barcio yng Ngwynedd