Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Y Cyngor a Democratiaeth > Masnachu gyda'r Cyngor
 

Cofrestr cytundebau

Ar y dudalen hon gallwch weld rhestr o gontractau Cyngor Gwynedd.

Mae’r rhestr yn cynnwys contractau a chytundebau fframwaith sydd werth dros £50,000 am nwyddau a gwasanaethau rydym yn eu pwrcasu yn rheolaidd. Bydd y rhestr yn cael ei diweddaru’n gyson, ac yn cynnwys unrhyw gontractau newydd sydd yn cael eu cytuno.

Mae’r rhestr yn nodi pa bryd mae gwahanol gontractau yn cael eu hadolygu, ac yn galluogi cyflenwyr i weld pa nwyddau a gwasanaethau y mae’r Cyngor yn eu pwrcasu. A hefyd, pha bryd y maent yn debygol o fynd allan i dendr.

Gallwch weld y rhestr gontractau drwy agor yr atodiad ar waelod y dudalen hon.

Am fwy o wybodaeth am dendro gyda Gwynedd ewch i’r adran ‘Gweithio gyda Gwynedd’ neu os oes gennych unrhyw gwestiwn am y rhestr gontractau, cysylltwch â’r Uned Caffael ar 01286 679213 neu drwy anfon e-bost i caffael@gwynedd.gov.uk

Os am drafod contract penodol, cysylltwch â’r pwynt cyswllt ar gyfer y contract penodol hwnnw (wedi ei nodi yn y rhestr isod) drwy ffonio 01766 771 000.


Datganiad atebolrwydd - Nid yw’r Cyngor yn ymrwymo i brynu'r nwyddau na’r gwasanaethau hyn yn y dyfodol. Nid yw ychwaith yn gwarantu ei fod am adnewyddu unrhyw un o’r contractau hyn. Bydd hyn yn benderfyniad i’r adrannau perthnasol o fewn y Cyngor. Nid yw’r rhestr yn cynnwys holl gontractau’r Cyngor. Byddwn yn ymdrechu i ddiweddaru'r rhestr mor gyson ag sydd yn bosib ond ni allwn draddodi i unrhyw amserlen.


Atodiadau

Rhestr Contractau Ionawr 2013pdf (pdf, 87k)Excel Spreadsheet (Excel Spreadsheet, 46k)
 

Ewch i Adobe.com i lawrlwytho'r meddalwedd di-dal Adobe© Reader neu i gael cymorth gyda darllen ffeiliau pdf.


Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 09/01/2013
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]