Mae plant dosbarth meithrin Ysgol Llanrug wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect cymunedol yn yr ardal, wrth iddynt helpu i blannu blodau yn stad tai gwarchod, Hafan Elan yn y pentref.
Bu 27 o’r plant yn cynorthwyo yn y cynllun a drefnwyd gan staff Adran Tai Cyngor Gwynedd ac Ysgol Llanrug. Plannwyd blodau mewn potiau arbennig, ac yna eu dosbarthu o amgylch trigolion y stad.
Cyflwynwyd anrhegion i’r plant i ddiolch iddynt am eu gwaith caled, a bydd mainc arbennig yn cael ei chyflwyno i breswylwyr Hafan Elan.
Cefnogwyd y diwrnod gan Gyngor Gwynedd a Nwy Prydain.