Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2009 > Gorffennaf
 

Llwyddo yng Ngwynedd – Gweinidog yn cael blâs o gynnyrch lleol

Agoriad swyddogol Annog Cyf ym Mhorthmadog
Agoriad swyddogol Annog Cyf ym Mhorthmadog

Mae Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros Faterion Gwledig wedi bod yn dysgu mwy am raglen datblygu gwledig sy’n ceisio annog ysbryd o fentergarwch yng Ngwynedd wledig.

Yn ystod agoriad swyddogol swyddfa Annog Cyf ym Mhorthmadog, cafodd Elin Jones AC gyfle i gyfarfod staff Llwyddo yng Ngwynedd ynghyd ag unigolion sydd eisoes wedi gwneud y mwyaf o gymorth y rhaglen i ddatblygu menter eu hunain yn lleol.

Wrth agor y swyddfa newydd, dywedodd Elin Jones AC, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth y Cynulliad:

“Rydw i’n falch iawn o agor swyddfa Annog Cyf yma ym Mhorthmadog ac i gael y cyfle i gyfarfod staff y prosiect ac unigolion sydd wedi derbyn cefnogaeth trwy brosiectau  Galluogi a Mentro. 
 
"Bydd y swyddfa newydd yn darparu sylfaen dda ar gyfer gweithredu’r ddau brosiect, sy’n anelu at hyrwyddo arloesedd ac ysbryd o fentergarwch yng Ngwynedd. Mae hon yn neges hynod amserol yn yr amseroedd economaidd anodd sydd ohoni, ac rydw i’n dymuno pob llwyddiant i bawb sydd ynghlwm â’r prosiectau.”

Nododd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards:

“Braf gweld y Cyngor yn cydweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau fod ein hardaloedd gwledig yn gallu manteisio ar gymorth arbenigol i hyrwyddo ysbryd mentergarwch. Mae gan ardaloedd gwledig Gwynedd gyfoeth o gynnyrch anhygoel – rwy’n hyderus y bydd gwaith Llwyddo yng Ngwynedd yn gymorth i wneud y mwyaf o’r adnoddau arbennig hyn.”

Mae swyddfa Annog Cyf wedi ei hagor yn bennaf er mwyn gweithredu dwy agwedd benodol o raglen Llwyddo yng Ngwynedd:

  • y prosiect “Galluogi”, sy’n cynnig cymorth ymarferol ar gyfer busnesau newydd, busnesau bychan sydd eisoes yn bodoli ac sy’n mentro i faes newydd, neu grwpiau cymunedol sydd wedi eu lleoli ar fferm
  • prosiect “Cynnig Gwynedd” a fydd yn cefnogi cynnyrch lleol a chyflenwadau lleol

Fel rhan o brosiect “Cynnig Gwynedd”, bydd pecynnau rhagbrofi yn cynnwys y gorau o’r hyn sydd gan Wynedd i’w gynnig o ran cynnyrch a chrefftau lleol yn cael eu Datblygu a’u dosbarthu. Y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones oedd y person cyntaf i dderbyn un o’r pecynnau yn ystod ei hymweliad ddydd Iau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dewi Lewis, sy’n arwain ar yr Economi a Chymuned ar Gyngor Gwynedd:

“Wrth adeiladu ar lwyddiant rhaglen Llwyddo’n Lleol, rydym yn anelu i sicrhau fod darpar entrepreneuriaid yn gallu datblygu mentrau sydd nid yn unig yn gweddu i’w lleoliad gwledig ond sydd hefyd yn manteisio ar gryfderau’r ardal.

“Trwy’r cymorth sydd wedi ei deilwra gan agweddau amrywiol o raglen Llwyddo yng Ngwynedd, rydym yn hyderus y gall cymunedau gwledig Gwynedd ddatblygu mentrau llwyddiannus a chynaliadwy sy’n gwneud y mwyaf o asedau’r sir.”

Mae rhaglen Llwyddo yng Ngwynedd wedi ei rhannu yn bedwar pecyn sy’n anelu at ddarparu cefnogaeth addas ar gyfer pobl sy’n cychwyn busnes am y tro cyntaf, i’r rhai hynny sydd eisoes yn berchen ar fusnes bychan ond yn awyddus i ddatblygu gweithgaredd masnachol newydd. Tra bod pob pecyn yn cael ei weithredu gan asiantaeth unigol, mae’r holl waith cydgordio yn cael ei wneud gan dîm Llwyddo yng Ngwynedd y Cyngor.   

Os byddech chi’n hoffi dod i wybod os oes yna brosiect Llwyddo yng Ngwynedd a fyddai’n gallu eich cynorthwyo i ddatblygu menter busnes, cysylltwch â’r tîm yng Ngyngor Gwynedd ar 01286 679774 / 01286 679729 neu ebost: LlwyddoyngNgwynedd@gwynedd.gov.uk

Mae rhaglen Llwyddo yng Ngwynedd wedi ei ariannu trwy Gynllun Datblygu Gwledig 2007-2013 Llywodraeth y Cynulliad.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 13/07/2009
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]