Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2009 > Gorffennaf
 

Dewch i Gerdded Cymru - Cyngor Gwynedd yn Cymryd Camau Pwysig

Hwyluswyr Cerdded Cyngor Gwynedd
Hwyluswyr Cerdded Cyngor Gwynedd

Gyda grwpiau cerdded llwyddiannus eisoes yn camu ymlaen yn Nolgellau, y Bala, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog, Abermaw, Penygroes a Phwllheli, mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau arian i gyflogi dau hwylusydd cerdded newydd a fydd yn gweithio i sicrhau fod grwpiau drwy’r sir yn gallu gwneud y gorau o gefn gwlad a’r llwybrau gwych sydd gan Wynedd i’w cynnig.

Fel rhan o fenter Dewch i Gerdded Cymru mae £15,000 o arian ar y cyd gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru wedi caniatáu i Gyngor Gwynedd gyflogi Hwyluswyr Cerdded rhan-amser er mwyn cynnig rhaglen gerdded drwy’r sir. Bydd y rhaglen yma gan Gyngor Gwynedd, sydd ar ei hail flwyddyn, yn adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes fel rhan o flwyddyn gyntaf y fenter Cerdded Nordig gan y Cyngor.

Dywedodd Sharon Jones, Swyddog Datblygu Gweithgaredd Corfforol Cyngor Gwynedd:

“Ein prif gynllun eleni yw darparu cefnogaeth a chyngor parhaus i’n tywyswyr cerdded gwirfoddol sef calon ein grwpiau cerdded drwy Wynedd. Er mwyn gwneud hyn rydym wedi cyflogi dau hwylusydd cerdded rhan-amser - Catrin Roberts a Caroline Moncrieff – a fydd â chyfrifoldeb am nifer o grwpiau cerdded ac yn gyfrifol am sefydlu grŵp cerdded newydd yng Ngwynedd.

“Bydd y ddwy yn cadw golwg ac yn cefnogi pob grŵp cerdded yn fisol i sicrhau fod y tywyswyr yn cwrdd â’r safonau a osodwyd gan fenter Dewch i Gerdded Cymru a’u bod yn cael gwybod am unrhyw wybodaeth newydd a chyngor gan Dewch i Gerdded Cymru.

“Mae’r ddwy wedi cymhwyso fel arweinwyr a thiwtoriaid Dewch i Gerdded Cymru ac fel hyfforddwyr Cerdded Nordig. Felly mae gan y ddwy wybodaeth a sgiliau angenrheidiol i’w cynnig i'r holl grwpiau cerdded ynghyd â chyfoeth o wybodaeth am ba hyfforddiant sydd gan Gyngor Gwynedd i'w gynnig, a'r grantiau sydd ar gael i brosiectau lleol.”

Ariannwyd cynllun Gwynedd drwy fenter Dewch i Gerdded Cymru a’r nod yw cynyddu’r nifer o bobl sy’n cerdded fel gweithgaredd rheolaidd. Mae menter Dewch i Gerdded Cymru yn canolbwyntio ar gynnig gwybodaeth am gerdded yng Nghymru, yn enwedig mewn cyswllt â’r rhaglenni cerdded iechyd. 

Ychwanegodd Sharon Jones:

“Er mwyn i grwpiau cerdded fod yn glybiau cerdded annibynnol mae hi’n hanfodol eu bod yn manteisio ar y gefnogaeth a'r cyngor gan ein tîm yng Nghyngor Gwynedd, i ymgeisio am arian ac i ddatblygu cynllun cerdded lleol. Hyderwn fod ein grwpiau cerdded llwyddiannus yn Nolgellau, Eglwys Crist y Bala, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog, Abermaw, Penygroes a Phwllheli i gyd yn dangos brwdfrydedd i fod yn grwpiau cerdded hunangynhaliol ac annibynnol.”

Gyda grantiau hyd at £15,000 ar gael dros gyfnod o ddeuddeg mis i brosiectau cymwys, mae Dewch i Gerdded Cymru yn ceisio dangos y gallwch wella eich iechyd drwy fynd am dro.

Esboniodd Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

“Drwy uno a ffrwyno ein hymdrechion i drawsnewid y boblogaeth i fod yn heini ac iach mae Cyngor Chwaraeon Cymru ynghyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru a Llywodraeth y Cynulliad am ddangos fod ymarfer gwyrdd yn cael ei gydnabod fel un o'r ymarferion mwyaf effeithiol a chost effeithlon i wella iechyd corfforol a meddyliol y genedl.

“Rydym eisiau chwistrellu arian i’r prosiectau mewn ardaloedd lle mae’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn isel ac i brosiectau sy'n dangos y potensial i fod yn hunangynhaliol ymhell yn y dyfodol.”

Mae Catrin Roberts, o Danygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, yn un o Hwyluswyr Cerdded newydd Cyngor Gwynedd. Bydd hi’n cefnogi y grwpiau cerdded yn ne Gwynedd a bydd yn datblygu grwp newydd yn ardal Tywyn.

“Mae cerdded yn gallu bod yn weithgaredd cymdeithasol iawn, lle gallwch gyfarfod nifer o bobl newydd yn eithaf hawdd,” meddai Catrin. 

“Gall hefyd fod o fudd i bawb ohonom, yn feddyliol yn ogystal ag yn gorfforol, ac ar yr un pryd mae’n ein hymlacio ac yn rhoi egni newydd i ni! Mae’n gyfle ardderchog i mi gefnogi’r grwpiau cerdded cymunedol hyn yn eu nod o ddarparu teithiau cerdded cyson a dibynadwy, sydd wedi eu hasesu o ran perygl ac wedi eu harwain gan dywyswyr gwirfoddol cymwys ac arweinwyr cymorth cyntaf. Gobeithio y medraf innau gyfrannu cymaint iddynt hwy ag y maent hwy yn ei roi i eraill.”

Mae Caroline Moncrieff, o Lanaelhaearn, hefyd yn barod i ddechrau ar ei gwaith fel Hwylusydd Cerdded i Gyngor Gwynedd.

“Mae’r teithiau cerdded iach yma yn ffordd ddelfrydol o gael pobl i gerdded, beth bynnag yw eu lefel ffitrwydd. Mae cyfle i’r cerddwyr gyfarfod ffrindiau newydd ac archwilio cefn gwlad a’r trefi lle maent yn byw,” meddai Caroline.

“Ar ôl ychydig mae nifer o gerddwyr yn darganfod eu bod eisiau cymryd y cam nesaf a dod yn Dywyswyr Cerdded eu hunain, sy’n ein galluogi i gynnig mwy o Deithiau Iechyd mewn amrywiaeth o fannau yng Ngwynedd. Yn ogystal â chefnogi'r grwpiau cerdded yng ngogledd Gwynedd, byddaf hefyd yn targedu Bethesda fel ardal i ddatblygu grŵp cerdded newydd.”

Am ragor o wybodaeth am grwpiau cerdded a gefnogir gan Gyngor Gwynedd cysylltwch â Swyddog Datblygu Gweithgaredd Corfforol Cyngor Gwynedd, Sharon Jones ar 01341 424 410, neu e-bost: sharonjones@gwynedd.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Dewch i Gerdded Cymru ewch i: www.lets-walk-cymru.org.uk



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 09/07/2009
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]