Bwriad yr arddangosfa fydd dathlu doniau creadigol "Criw Celf", sef clwb celf ar gyfer plant sy'n arddangos dawn a diddordeb arbennig mewn celf weledol yma yng Ngwynedd.
Yn ystod yr arddangosfa a fydd yn cael ei gynnal rhwng 1 a 12 Gorffennaf, bydd digwyddiad dathlu arbennig yn cael ei gynnal yn Theatr Harlech rhwng 10am a 11am ar fore Sadwrn, 11 Gorffennaf.
Dywedodd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, Cadeirydd Cyngor Gwynedd:
"Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae cynllun Criw Celf wedi cynnig cyfle arbennig i blant a phobl ifanc Gwynedd sy'n ymddiddori mewn celf i ymarfer eu sgiliau.
"Mae'r gwaith celf y mae'r plant wedi ei gynhyrchu yn tanlinellu eu dawn greadigol anhygoel, ac rwy'n hynod falch fod y Cyngor, trwy gydweithrediad Theatr Harlech yn gallu dathlu ac arddangos eu talent. Mae'r arddangosfa yn amlygu'r hwyl mae'r Criw Celf wedi ei gael yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac rwy'n annog aelodau'r cyhoedd i fynd draw i fwynhau'r arddangosfa."
Bydd croeso cynnes i aelodau'r cyhoedd fynychu'r digwyddiad dathlu ar yr 11eg, yn ogystal â bwrw draw i Theatr Harlech i fwynhau'r arddangosfa - Llun i Gwener o 9.30am hyd 5.30pm ac un awr o flaen perfformiadau'r theatr.
Ychwanegodd Gwawr Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd:
"Mae gweld aelodau'r Criw Celf yn datblygu a miniogi eu crefft wedi bod yn brofiad arbennig.
"Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith celf gwreiddiol a ffotograffau sy'n cofnodi'r aelodau wrth eu gwaith - mae'n sicr yn werth ei weld a bydd yn rhoi blas i ymwelwyr o beth mae Criw Celf wedi ei gynnig i aelodau ers lansio'r dosbarthiadau meistri."
Am ragor o wybodaeth am gynllun Criw Celf, cysylltwch â Gwawr Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd ar 01286 679721, e-bostio: GwawrR@gwynedd.gov.uk neu ewch i: www.gwynedd.gov.uk/celf