Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards:
“Yn ystod y tri mis diwethaf, mae Cyngor Gwynedd wedi gweithio’n agos gyda’r gymuned fusnes lleol er mwyn datblygu Cynllun Adferiad Economaidd Gwynedd - cynllun gweithredu 34 cam y bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn ei weithredu ar lefel leol.
“Tra bod busnesau Gwynedd yn croesawu’r camau ymarferol cenedlaethol y mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi eu cymryd – gyda mentrau Proact a React yn benodol yn cael eu gweld fel enghreifftiau clir o Cymru’n arwain y ffordd – maent hefyd wedi dangos yn glir y dylai Llywodraeth Cymru ostwng Trethi Busnes er mwyn lleddfu’r pwysau ar fusnesau sy’n cael anawsterau yn y cyfnod allweddol hwn.
“Rydw i eisoes wedi trafod y posibilrwydd o leihau trethi busnes fel ffordd ymarferol o hwyluso’r problemau ariannol sy’n wynebu busnesau gyda Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad a Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, ac rwyf wedi ysgrifennu yn swyddogol ato i ofyn i Lywodraeth Cymru’n Un i ystyried y mesur hwn fel blaenoriaeth strategol.”
Gall unrhyw fusnes yng Ngwynedd sy’n dymuno derbyn mwy o wybodaeth am wahanol fentrau cefnogi busnes Cyngor Gwynedd gysylltu â’r Uned Cefnogi Busnes ar (01286) 679778 neu: busnes@gwynedd.gov.uk