Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2009 > Mawrth
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mawrth |
 

Taclo tlodi tanwydd - mae Cyngor Gwynedd Yma i Helpu

Mae cyfle i rai o drigolion Gwynedd i fanteisio ar gynllun arloesol fydd yn golygu cartrefi cynhesach am lai o gost tanwydd.

Bwriad cynllun Yma i Helpu Cyngor Gwynedd, sy’n gweithio mewn partneriaeth efo Nwy Prydain, yw rhoi cyfle, i bobl Penrhyndeudraeth, Porthmadog a Thremadog wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.
 
Mae’r Cynllun Yma i Helpu yn rhoi cyfle i drigolion sy’n byw mewn tai preifat o fewn y wardiau hyn, gael ynysu’r atig, ynysu waliau ceudod ac ynysu eu tanc dŵr poeth yn rhad ac am ddim.
 
Bydd sesiynau gwybodaeth yn gyfle i drigolion lleol weld arddangosfa yn ogystal â chael cyfle i drafod y prosiect gyda swyddogion Cyngor Gwynedd a Nwy Prydain. Bydd arolygwyr o gwmni Hillserve Insulation, sy’n ymwneud a’r cynllun, hefyd wrth law i drefnu apwyntiadau ar gyfer arolwg. Bydd nifer o fudiadau lleol hefyd yn bresennol i gynnig gwasanaethau eraill.
 
Gall hyn fod o fudd mawr i berchnogion cartrefi sy’n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd oherwydd y wasgfa ariannol ac effeithiau cynnydd mewn pris tanwydd, yn enwedig gan i ni gael gaeaf arbennig o galed yn 2008/09.
 
Mae’n gyfle hefyd i fyw yn wyrdd drwy leihau ôl troed carbon drwy wneud defnydd mwy darbodus o wresogyddion a thannau i gynhesu’r cartref.
 
Cynhelir sesiynau gwybodaeth yn:

  • Penrhyndeudraeth – Neuadd y Pentref – Dydd Mawrth, 24 Mawrth, 10am-12.30pm
  • Porthmadog – Y Ganolfan – Dydd Mawrth, 31 Mawrth, 2-7pm.

Dywedodd y Cynghorydd John Wyn Williams, Uwch Arweinydd Gofal Cyngor Gwynedd:
 
“Mae tlodi tanwydd yn broblem ddyrys iawn yn enwedig ymysg pobl fregus a gall cynllun Yma i Helpu Cyngor Gwynedd leihau nifer y cartrefi sy’n dioddef.
 
“Croesawaf y cynllun blaengar yma sydd eisoes wedi rhoi cyfle i filoedd o berchnogion tai ar hyd a lled y sir wirio effeithlonrwydd ynni eu cartrefi a lleihau faint o arian y maent ei wario ar eu biliau tanwydd.
 
“Rydw i’n annog unrhyw un sy’n byw yn wardiau Penrhyndeudraeth, Porthmadog a Thremadog i fynd draw i’r sesiynau gwybodaeth er mwyn gweld pa gymorth sydd ar gael iddynt.” 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 17/03/2009
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]