Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2009 > Mawrth
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mawrth |
 

Awydd gêm o dennis?

Canolfan Tenis Arfon
Canolfan Tenis Arfon

Mae’n bosib y bydd Andy Murray neu Venus Williams y dyfodol yn cael eu darganfod mewn diwrnod agored a fydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Dennis Arfon Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon.

Os ydych chi’n byw yng Ngwynedd ac awydd gweld sut mae eich sgiliau tennis chi yn cymharu ag eraill, neu hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gafael mewn raced o’r blaen, dewch draw i un o ganolfannau chwaraeon gorau’r wlad, Canolfan Tennis Arfon, wrth iddi agor ei drysau am y diwrnod a chynnig tennis am ddim i bawb.

Bydd y ganolfan dennis, sydd yn cael ei rhedeg gan Gyngor Gwynedd, yn cynnig tennis am ddim i bawb o bob oedran gyda hyfforddiant ar gael rhwng 10.30am a 12.30pm yn ystod hanner diwrnod tennis ar ddydd Sadwrn, 4 Ebrill 2009.

Dywedodd Ian Preston, Hyfforddwr Datblygu Tennis Cyngor Gwynedd:

“Ein nod drwy lwyfannu’r diwrnod agored rhad ac am ddim yw annog pobl o bob oedran i ddod draw i’w canolfan dennis leol, a gafael mewn raced. Bydd rhywbeth ar gael at ddant pawb.

“Rydym yn gobeithio y bydd y diwrnod agored yn annog mwy o bobl i ymweld â Chanolfan Dennis Arfon yn rheolaidd gan wneud y gorau o’r cyfleuster chwaraeon ardderchog, lle gallwch wneud y mwyaf o’r hyfforddiant sydd ar gael, chwarae er mwyn hamdden, cynghreiriau a llawer iawn mwy.”

Am ragor o wybodaeth am y diwrnod agored, neu os ydych eisiau gwybod mwy am beth sy’n mynd ymlaen yng Nghanolfan Dennis Arfon, ffoniwch 01286 676945.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 16/03/2009
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2014
Sgipio i [ brig y dudalen ]