Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2009 > Mawrth
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mawrth |
 

Gweinidog yn gweld cynnydd yn rhaglen ailgylchu a chompostio Gwynedd

Jane Davidson
Jane Davidson AS gyda y cynghorwyr Gareth Roberts ac Arwel Pierce yn Ffridd Rasus

Mae gwaith Cyngor Gwynedd ym maes ailgylchu a chompostio gwastraff wedi denu sylw Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad, Jane Davidson.

Cafodd y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai gyfle i ymweld â safle compostio Cyngor Gwynedd yn Ffridd Rasus, Harlech yn ddiweddar. Tray no, cafodd weld y gwaith sydd yn mynd ymlaen yno i gompostio gwastraff bwyd a gardd trigolion Gwynedd.

Agorwyd y safle compostio yn 2008, ac erbyn hyn mae gwastraff bwyd a gardd y rhan helaeth o gartrefi Dwyfor a Meirionnydd yn mynd yno i gael ei droi yn gompost.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Roedd yr ymweliad yma yn gyfle gwych i’r Gweinidog weld yr holl waith da sy’n mynd ymlaen yng Ngwynedd o ran casglu a chompostio gwastraff yn cynnwys gwastraff bwyd gan ddefnyddio’r cadi cegin a’r bin brown.

“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i leihau’r tunelli o wastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi, ac felly mae llwyddiant cynlluniau ailgylchu a chompostio yn allweddol a rhaid diolch i drigolion lleol am eu cefnogaeth. Roeddem yn falch o groesawu’r Gweinidog i Ffridd Rasus er mwyn iddi gael gweld y gwaith arbennig yma yn bwrw ymlaen.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Arwel Pierce, Arweinydd Portffolio Priffyrdd a Bwrdeistrefol y Cyngor:

“Ers blynyddoedd bellach mae’r targed heriol o ailgylchu a chompostio 40% o’n gwastraff erbyn 2010 wedi ei osod. Mae gwaith pwysig yn mynd ymlaen i sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed drwy leihau gwastraff sy'n mynd i dirlenwi, yn ailgylchu gan ddefnyddio’r bocs glas a chompostio drwy ddefnyddio’r bin brown a chadi cegin.

“Wrth gwrs ni allwn gyflawni hyn heb ymroddiad ein trigolion nac ychwaith heb ddatblygu safleoedd fel Ffridd Rasus. Braf oedd gallu croesawu’r Gweinidog i Ffridd Rasus.”

Am fwy o wybodaeth am unrhyw agwedd o leihau gwastraff, ailgylchu a chompostio yng Ngwynedd cysylltwch â Desg Gymorth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd ar: (01286) 679872 neu e-bostio: ailgylchu@gwynedd.gov.uk



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 10/03/2009
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]