Cafodd y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai gyfle i ymweld â safle compostio Cyngor Gwynedd yn Ffridd Rasus, Harlech yn ddiweddar. Tray no, cafodd weld y gwaith sydd yn mynd ymlaen yno i gompostio gwastraff bwyd a gardd trigolion Gwynedd.
Agorwyd y safle compostio yn 2008, ac erbyn hyn mae gwastraff bwyd a gardd y rhan helaeth o gartrefi Dwyfor a Meirionnydd yn mynd yno i gael ei droi yn gompost.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Roedd yr ymweliad yma yn gyfle gwych i’r Gweinidog weld yr holl waith da sy’n mynd ymlaen yng Ngwynedd o ran casglu a chompostio gwastraff yn cynnwys gwastraff bwyd gan ddefnyddio’r cadi cegin a’r bin brown.
“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i leihau’r tunelli o wastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi, ac felly mae llwyddiant cynlluniau ailgylchu a chompostio yn allweddol a rhaid diolch i drigolion lleol am eu cefnogaeth. Roeddem yn falch o groesawu’r Gweinidog i Ffridd Rasus er mwyn iddi gael gweld y gwaith arbennig yma yn bwrw ymlaen.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Arwel Pierce, Arweinydd Portffolio Priffyrdd a Bwrdeistrefol y Cyngor:
“Ers blynyddoedd bellach mae’r targed heriol o ailgylchu a chompostio 40% o’n gwastraff erbyn 2010 wedi ei osod. Mae gwaith pwysig yn mynd ymlaen i sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed drwy leihau gwastraff sy'n mynd i dirlenwi, yn ailgylchu gan ddefnyddio’r bocs glas a chompostio drwy ddefnyddio’r bin brown a chadi cegin.
“Wrth gwrs ni allwn gyflawni hyn heb ymroddiad ein trigolion nac ychwaith heb ddatblygu safleoedd fel Ffridd Rasus. Braf oedd gallu croesawu’r Gweinidog i Ffridd Rasus.”
Am fwy o wybodaeth am unrhyw agwedd o leihau gwastraff, ailgylchu a chompostio yng Ngwynedd cysylltwch â Desg Gymorth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd ar: (01286) 679872 neu e-bostio: ailgylchu@gwynedd.gov.uk