Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2009 > Mawrth
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mawrth |
 

Menter newydd ar flaen y gad yn erbyn blerwch ar y strydoedd

Logo Balchder Bangor / Bangor Pride
Balchder Bangor

Mae cynllun cyffrous wedi dechrau a fydd yn ail gynnau fflam balchder yn ninas dysg gogledd Cymru drwy wella delwedd ac edrychiad yr ardal.

Cynhaliwyd cyfarfodydd cyntaf menter ‘Balchder Bangor’ yn ddiweddar ac mae nifer o asiantaethau sector gyhoeddus a busnesau preifat y ddinas wedi cytuno cydweithio er lles pawb.
 
Bwriad y cynllun – y cyntaf o’i bath yng Ngwynedd – yw troi ar ei ben y teimlad ymysg pobl leol fod eu dinas yn ddi-raen, budur ac wedi ei hesgeuluso. Bydd arbenigedd ac adnoddau yn cael eu rhannu ymysg aelodau’r fenter i wella golwg Bangor, ac i godi ymdeimlad o falchder ymysg trigolion.
 
Rhai o’r problemau mae pobl yn cwyno amdanynt dro ar ôl tro yw fandaliaeth; tipio slei bach; ysbwriel ar y stryd, gan gynnwys stympiau sigarét, olion gwm cnoi ac ysbwriel bwyd cyflym; graffiti; posteri; baw ci ac adeiladau di-raen.
 
Mae nifer o grwpiau eisoes wedi ymrwymo i’r cynllun, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, Cyngor Dinas Bangor, yr Heddlu, Cadwch Gymru’n Daclus, Cymdeithas Ddinesig Bangor, Prifysgol Bangor, Asiantaeth yr Amgylchedd, y Gwasanaeth Tân; Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru; Fforwm Busnes Bangor a chynghorwyr lleol.
 
Mae’r bartneriaeth eisoes wedi mynd i’r afael â’r broblem drwy ariannu ymgyrch tacluso Maesgeirchen a drwy gynllun o glirio sbwriel tipio anghyfreithlon o rannau o’r ddinas sy’n dioddef o’r broblem yma.
 
Mae nifer o gynlluniau eraill ar y gweill gan gynnwys sefydlu gwefan Balchder Bangor, cynnal cystadleuaeth i ddod o hyd i’r ardd orau yn y ddinas a gwobr gan y Gymdeithas Ddinesig am yr adeilad masnachol gorau.
 
Mae aelodau’r fenter yn chwilio am ychwaneg o bobl sy’n meddwl y byd o Fangor ac yn barod i roi eu hamser neu adnoddau i sicrhau fod Balchder Bangor yn llwyddo. Bydd ymgyrch i ddenu aelodau yn cael ei lansio maes o law.
 
Dywedodd Cadeirydd Balchder Bangor, Maer y Ddinas a Chynghorydd Gwynedd, John Wynn Jones: “Mae’r grwpiau sydd wedi eu hymroi i weithio er budd Bangor yn benderfynol ddod a balchder yn ôl i’r ddinas.
 
“Mae gwahoddiad i bawb sy’n byw neu’n gweithio ym Mangor i ymuno yn y fenter a chwarae eu rhan. Drwy gael pawb i weithio gyda’i gilydd rydw i’n hyderus y byddwn yn gweld gwahaniaeth mawr yn y dyfodol agos.”
 
Croesawyd y fenter gan y Cynghorydd June Marshall, sydd hefyd yn aelod o Fforwm Busnes Bangor. Meddai: “Mae Bangor eisoes yn gyrchfan boblogaidd ymysg miloedd o siopwyr ac ymwelwyr sy’n mwynhau dewis eang o siopau, caffis ac atyniadau eraill ar y Stryd Fawr, Ffordd Caernarfon ac ym Mangor Uchaf.
 
“Edrychwn ymlaen at gymryd rhan yn 'Balchder Bangor' er mwyn glanhau a thacluso ein dinas a gobeithiwn y bydd gwell amgylchedd yn denu mwy o bobl i ymweld â Bangor.”
 
Mae’r fenter yn rhan o gynllun Trefi Taclus llywodraeth y Cynulliad, sef cynllun cenedlaethol sy’n annog cymunedau i gymryd cyfrifoldeb dros eu hamgylchedd lleol, gyda chefnogaeth yr awdurdodau.


Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 06/03/2009
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]