Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2009 > Mawrth
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mawrth |
 

Diwrnod agored i drafod Tai Fforddiadwy yn Beddgelert

A ydych chi’n breswylydd yn ardal Cyngor Cymuned Beddgelert? Oes gennych chi bryder am ddyfodol yr ardal sy’n cynnwys cadw pobl ifanc a rhai hŷn yn yr ardal, cyfleon gwaith, dirywiad ysbryd cymunedol, yr Iaith Gymraeg a’i diwylliant? Os ydych chi yna hwyrach bod gennych chi ddiddordeb mewn Tai.

Mae hwn yn bwnc pwysig i bawb, ac ar ddydd Mawrth y 17eg o Fawrth 2009 rhwng 3 a 6:30 yr hwyr mae digwyddiad agored i breswylwyr yn cael ei drefnu ar y cyd gan Gyngor Cymuned Beddgelert a Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd yng Neuadd y pentre Beddgelert i glywed barn ac yn gyfle i bobl ddweud beth yw’r angen am dai.

Mae’r arolwg anghenion tai a gynhaliwyd gan Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd a Chyngor Cymuned Beddgelert yn dangos bod 11 wedi ymateb mewn angen symud o fewn yr ardal o fewn y 5 mlynedd nesaf. 8 yn datgan eu bod wedi byw yn yr ardal dros 10 mlynedd.

Dywedodd Arfon Hughes Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd  –

 “Roedd amrywiaeth o resymau pam roedd cartrefi angen symud o fewn ardal y Cyngor yn cynnwys tai rhy fawr, llety dros dro, yn ogystal a rhai ag angen llety o’r herwydd anghenion corfforol neu angen bod yn annibynnol. Roedd nifer yn methu fforddio tŷ ar y farchnad agored a rhai eraill yn methu cael tŷ yn addas i’w anghenion.“

“Mae diwrnod agored yn gyfle i drafod materion yn agored, heb bwysau cyfarfod cyhoeddus a medrwch drafod un i un. Gyda chymorth y Cyngor Cymuned bydd modd i breswylwyr fynegi eu barn ar safleoedd datblygu posibl ynghyd a chofrestru eu hangen am dŷ.”

Yn ôl y Cyngor Cymuned

“Mae’n holl bwysig bod pawb sydd yn ystyried aros yn ardal Beddgelert ac angen symud eu cartref, yn cofrestru eu hangen ar y diwrnod. Mae angen i ni fel Cyngor Cymuned sicrhau bod trigolion yn gallu fforddio’r tai sydd yn yr ardal, a’n bod ni yn gallu cynllunio i’r dyfodol.”

“Bydd y diwrnod agored yn gyfle i bawb weld cynllun safle gan ddatblygwr, ynghyd a chyfle i fynegi barn arno ac ar safleodd posib i’r dyfodol yn ogystal ag unrhyw ystyriaethau eraill.”

Yn ôl Alwyn Gruffydd y Cynghorydd Sir sy’n ymwybodol o bwysigrwydd y digwyddiad -
“Mae hwn yn gyfle i holl breswylwyr lleol ddangos eu hangen am dŷ, a baswn yn hoffi apelio ar bobl Ifanc yn arbennig, i ddefnyddio’r digwyddiad yma i ddweud wrthym mewn awyrgylch anffurfiol beth yw eu barn ar gyfer dyfodol ardal Cyngor Cymuned Beddgelert. Mae ystyried tai ar gyfer pobl Ifanc lleol yn bwysig iawn os ydym yn wirioneddol o ddifri am ddyfodol ein cymdeithas.”
Yn ogystal a’r Hwylusydd Tai annibynnol, bydd aelodau’r Cyngor Cymuned, staff Cymdeithas Tai Eryri, datblygwr preifat ac eraill o bosib ar gael ar y diwrnod i ateb unrhyw gwestiynau.

Estynir croeso cynnes i bawb.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch ag Arfon Hughes Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd ar 01766 833018.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 02/03/2009
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]