Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Cynllunio ac Amgylchedd > Gwastraff ac Ailgylchu
 

Gwastraff swmpus

Peiriant golchi dillad - gwastraff swmpus
Peiriant golchi dillad - gwastraff swmpus

Weithiau mae'n bosib y bydd gennych wastraff swmpus mawr, fel hen deledu, cadair, soffa neu rholyn carped. Ni ellir derbyn eitemau fel hyn yn y bin gwyrdd, nac ychwaith wrth ochr eich biniau sbwriel. Gelwir eitemau fel hyn yn eitemau swmpus.

Mae’n bosib trefnu casgliad gwastraff swmpus gyda'r Cyngor.


I wneud cais am gasgliad gwastraff swmpus ffoniwch 01766 771000.


Mae ffi o £16 am y gwasanaeth, a byddwn yn casglu hyd at 5 eitem swmpus yn y pris hwn.  Nid oes cyfyngiad ar y nifer o geisiadau y gallwch eu gwneud mewn unrhyw gyfnod o amser, ond bydd ffi o £16 yn cael ei godi bob tro. Gallwch dalu'r ffi gyda cherdyn debyd dros y ffôn wrth drefnu eich casgliad, neu bydd yn bosib talu gyda siec neu archeb bost.


Nodwch:  Ni allwn gasglu’r eitemau canlynol fel rhan o’r casgliad gwastraff swmpus:

  • gwastraff adeiladwyr
  • gwastraff gardd (rhowch hwn yn y bin brown neu ewch ag o i'ch canolfan ailgylchu leol)
  • gwastraff tŷ dros ben (ewch â hwn i'ch canolfan ailgylchu leol)
  • gwastraff clinigol (mae trefniant arbennig ar gyfer gwastraff clinigol - mae gwybodaeth ar gael yn y cwestiynau ac atebion gwastraff tŷ)


Cofiwch y gallwch fynd ag unrhyw eitemau mawr neu drydanol i'r canolfannau ailgylchu yn rhad ac am ddim.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 25/05/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]