Gall pob cartref yng Ngwynedd dderbyn unai bin olwyn gwyrdd neu fagiau bin du er mwyn cael gwared o'u gwastraff tŷ.
Os na allwch ddod o hyd i ateb i'ch cwestiwn am gasglu gwastraff tŷ ar y dudalen hon, ewch i'r dudalen cwestiynau a ofynnir yn aml - bin gwyrdd.
Diwrnod casglu
Rydym yn casglu’r bin olwyn gwyrdd neu’r bagiau duon unwaith bob pythefnos. Os nad ydych yn siŵr o’ch diwrnod casglu, cysylltwch â ni ar 01766 771000.
Lawrlwythwch gopi o:
Mae gwastraff tŷ o’r bin olwyn gwyrdd (neu hyd at 3 bag du) yn cael ei gasglu un wythnos, a’ch gwastraff gardd a bwyd o’r bin olwyn brown yn cael ei gasglu yr wythnos ganlynol. Mae'r bocs glas ailgylchu yn cael ei gasglu yn wythnosol. Hynny ydi:
- Wythnos 'gwyrdd' - casgliad gwastraff tŷ (bin olwyn gwyrdd/bagiau bin du) a chasgliad ailgylchu (bocs glas) + gwastraff bwyd (Meirionnydd, Dwyfor, a rhan helaeth o Arfon)
- Wythnos 'brown' - casgliad gwastraff gardd (bin olwyn brown) a chasgliad ailgylchu (bocs glas) a gwastraff bwyd (Gwynedd gyfan)
Methu casgliad bin olwyn gwyrdd / bagiau duon
Os nad yw eich bin olwyn gwyrdd / bag bin du wedi ei gasglu, gofynnwn i chi ystyried:
A oedd y bin wedi’i roi allan ar y diwrnod cywir?
A oedd y bin wedi ei roi allan ar yr amser cywir?
A oedd y bin wedi ei roi allan yn y man cywir?
Ai dim ond llond 1 bin olwyn gwyrdd neu 3 bag bin du a roddwyd i'w gasglu?
Os mai na yw'r ateb, gofynnwn i chi gadw unrhyw ysbwriel tan y casgliad nesaf neu fynd ag o i un o’r canolfannau ailgylchu.
Os mai ia yw'r ateb, cysylltwch â ni ar 01766 771000.
Cais am fin olwyn gwyrdd
Dim ond un bin olwyn gwyrdd neu becyn o 52 bag bin du (am y flwyddyn) y gall pob cartref ei dderbyn.
Os ydych wedi symud i gartref newydd, neu os yw eich bin olwyn gwyrdd wedi malu neu wedi mynd ar goll gwnewch gais am fin newydd drwy gysylltu â ni ar: 01766 771000.
Ymholiad cyffredinol neu gwyn
Os nad ydych wedi dod o hyd i ateb i’ch cwestiwn ar y dudalen hon, edrychwch ar y cwestiynau a ofynnir yn aml - bin gwyrdd.
Gallwch hefyd gyflwyno ymholiad cyffredinol neu gwyn am y gwasanaeth casglu gwastraff yng Ngwynedd ar-lein: