Dyma’r cyfle olaf i denantiaid y Cyngor gael gweld y gwelliannau allent eu disgwyl os bydd eu cartrefi yn cael eu trosglwyddo i’r gymdeithas dai annibynnol, dielw.
Bydd y tŷ arddangos yn 28, Llwyn Beuno, Bontnewydd ar agor ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 3 ac 14 Chwefror ac mae’n cloi ymgynghoriad y Cyngor ar y cynnig o drosglwyddo’r stoc tai i Gartrefi Cymunedol Gwynedd.
Mae’n ofynnol gan Lywodraeth y Cynulliad fod pob tŷ Cyngor yng Nghymru yn cael ei godi i Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) sy’n golygu y dylai pob tŷ fod mewn cyflwr da, yn ddiogel, yn ogystal â chael ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern. Yn ystod yr ymgynghoriad mae sawl tŷ arddangos ac arddangosfa deithiol wedi bod yn agor mewn cymunedau ar draws Gwynedd i denantiaid gael gweld yr hyn sydd yn yr arfaeth yn ogystal â’r safonau fydd i’w disgwyl dan SATC.
Mae tenantiaid eisoes wedi derbyn y ddogfen ymgynghori ffurfiol sydd yn rhoi gwybodaeth fanwl am y cynnig a byddent yn cael eu gwahodd i bleidleisio maes o law ar un o’r ddau opsiwn - sef aros gyda’r Cyngor neu drosglwyddo i Gartrefi Cymunedol Gwynedd.
Os yw tenantiaid yn pleidleisio o blaid trosglwyddo’u tai yna byddai £136 miliwn yn cael ei fuddsoddi i godi’r cartrefi i’r Safon Ansawdd Tai Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd John Williams, Uwch Arweinydd Portffolio Gofal Cyngor Gwynedd: “Mae’r broses hon o ymgynghori yn un o’r mwyaf mae Cyngor Gwynedd erioed wedi ymgymryd â hi, ac rwy’n falch ein bod yn gallu agor y tŷ arddangos yma i’n tenantiaid.”
Esboniodd: “Mae rheolau cenedlaethol llym yn golygu nad yw’r Cyngor yn gallu benthyca’r arian sydd ei angen i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Ar y llaw arall, byddai Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn cael eu llywodraethu gan reolau gwahanol a byddant yn gallu benthyca’r arian sydd ei angen i sicrhau bod y tai yn cyrraedd safonau Llywodraeth y Cynulliad.”
Ychwanegodd Ffrancon Williams, Pennaeth Tîm Prosiect Pleidlais Stoc Tai: “Dyma’r cyfle olaf i denantiaid weld drostynt eu hunain pa welliannau all SATC olygu, a hoffwn eu hannog i fynd i weld y tŷ yn Bontnewydd. Ar ddiwedd y broses ymgynghori, y tenantiaid eu hunain fydd yn penderfynu ar y mater, felly mae’n hollbwysig eu bod yn ystyried yr wybodaeth cyn gwneud penderfyniad gwybodus mewn pleidlais gyfrinachol.”
Bydd bws gwennol rad ac am ddim ar gael i denantiaid ar ddydd Mawrth, 10 Chwefror. Bydd yn teithio rhwng y tŷ arddangos Caernarfon, Waunfawr, Rhosgadfan, Carmel, Talysarn a Phenygroes. Cysylltwch â’r tîm prosiect ar radffôn 0800 030 4653 i gael manylion ac i gadw lle ar y bws.
Am ragor o wybodaeth ar argymhellion trosglwyddo tai cyngor gall tenantiaid gysylltu â: