Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth a byddwn yn ail-agor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y mae hyn yn ei achosi.
“Mae contractwyr arbenigol yn cael eu cyflogi i fonitro diogelwch y systemau dŵr ym mhob un o ganolfannau hamdden a phyllau nofio’r Cyngor. Fel rhan o’r profion arferol hyn, mae bacteriwm legionella wedi ei ganfod yng nghawodydd Pwll Nofio Bangor, a phenderfynodd y Cyngor gau'r cyfleuster ar unwaith er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Mae profion hefyd wedi cadarnhau nad oes unrhyw broblem gyda dŵr y pwll nofio ei hun.
“Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddiheintio system y cawodydd. Bydd y pwll nofio yn aros ar gau nes ein bod yn gwbl fodlon fod pob canlyniad prawf yn glir.
“Bydd rhybuddion yn cael eu gosod ar fynedfa’r Pwll Nofio ac ar wefan y Cyngor er mwyn rhoi gwybod i’r cyhoedd pan fydd gwasanaethau yn ailddechrau.”
Ychwanegodd Dr Judy Hart, Ymgynghorydd mewn Heintiau Trosglwyddadwy'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol: “Rydym yn cydweithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd ar y mater hwn, ac mae meddygon teulu lleol wedi eu hysbysu am y sefyllfa fel mesur rhagofal. Mae’n galonogol nodi nad ydym , hyd yma, wedi derbyn unrhyw gynnydd yn y niferoedd o achosion o legionella.”