Bydd Arddangosfa Celf Agored yn cael ei chynnal yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor o ddydd Sadwrn, 14 Chwefror tan ddydd Sadwrn, 28 Mawrth, 2009.
Mae'r arddangosfa yn agored i bob arlunydd a myfyriwr sy'n byw neu weithio yng Nghymru. Gall ymgeiswyr gyflwyno hyd all ddau ddarn o'u gwaith mewn unrhyw gyfrwng gan gynnwys cerfluniau. Bydd panel annibynnol yn dethol y gwaith ar gyfer yr arddangosfa.
Am ffurflen gais a manylion pellach, ffoniwch 01248 353368.