Cwrs Pwytho a Brodwaith
Rydym yn bwriadu cynnal sesiynau yn Llyfrgell Cricieth a Chaernarfon yn ystod mis Mai a Mehefin. Gobeithio y gallwch ymuno â ni!
Cwrs 6 wythnos
Llyfrgell Criccieth, Dydd Mawrth, 10.00 – 11.30
7, 14, 21 Mai a 4, 11, 18 Mehefin
Llyfrgell Caernarfon, Dydd Gwener, 10.30-12.00
10, 17, 24 Mai a 7, 14, 21 Mehefin
Byddwch yn cael cyfle dros 6 wythnos i gynllunio a chreu eitemau bychain gan ddefnyddio ffabrig, ffelt a phwythau. Mae’r cwrs yn addas i ddechreuwyr a rhai profiadol. Cost: £40.00 y pen yn cynnwys deunyddiau yn daladwy ymlaen llaw. Cyfyngiedig i 12 o bobl. Sieciau yn daladwy i Cyngor Gwynedd os gwelwch yn dda. Mae neilltuo eich lle ymlaen llaw yn hanfodol a gallwch wneud hynny trwy gysylltu â NiaGruffydd@gwynedd.gov.uk neu ffonio 01286 679463
Methu gwneud y dyddiadau i gyd? Gallwch fynychu sesiynnau unigol – Cost £10 y sesiwn.
Llyfrgell Blaenau Ffestiniog
Aled Jones Willimas - yn ‘defnyddio llenyddiaeth i oleuo ein profiadau o fyw’ Tywyll Heno -Kate Roberts
Nos Wener, Mai 10fed - 7.00y.h - Croeso i bawb a mynediad am ddim.
Canolfan Maenofferen Blaenau Ffestiniog (Llyfrgell Blaenau Ffestiniog)
Arddangosfa gan Stephen Kingston
Dawnsio yn y Glaw - Mawrth 20 - Mai 11, 2013
Llun, Mawrth 10:00 - 1:00, 2.00 - 5.00
Mercher 10:00 - 1:00, 2.00 - 7.00
Gwener 10:00 - 1:00, 2.00 - 6.00
Sadwrn 10:00 - 1:00
Mynediad am ddim - Ffôn: 01766 830415
Llyfrgelloedd yn cynnig cymorth newydd i ddarllenwyr â nam ar eu golwg
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd yn cynnig cymorth newydd i bobl sydd wrth eu boddau’n darllen ond sy’n cael trafferthion oherwydd problemau gyda’i golwg.
Mae holl Lyfrgelloedd Gwynedd yn cynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau i bobl sy'n ddall, rhannol ddall neu sydd â nam ar eu golwg. Mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:
Llyfrau Print Bras - Cymraeg a Saesneg;
Llyfrau CD ac MP3 sain - Cymraeg a Saesneg;
Meddalwedd Zoom Text ar gyfrifiaduron yn llyfrgelloedd Pwllheli, Caernarfon a Bangor;
Offer Chwyddwydr - ar gael i gwsmeriaid i'w ddefnyddio mewn rhai llyfrgelloedd.
Llogi Ystafelloedd Llyfrgell
Mae modd i'r cyhoedd, darparwyr addysg lleol, asianataethau, cymdeithasau a chwmniau preifat logi Ystafelloedd Gwasanaeth Llyfrgell.
Lleoliadau Ystafelloedd Llyfrgell:
Cysylltwch a'r llyfrgell briodol am logi ystafell neu am fwy o wybodaeth.
Llyfrgell Abermaw (01341) 280258
Llyfrgell Blaenau Ffestiniog (01766) 830415
Llyfrgell Caernarfon (01286) 679463
Llyfrgell Criccieth (01766) 522256
Llyfrgell Dolgellau (01341) 422771
Llyfrgell Tywyn (01654) 710104