Dyma restr o adnoddau ar-lein y gellwch eu defnyddio 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Cliciwch ar unrhyw un o'r linciau isod, i gael gwybodaeth unrhyw adeg o'r dydd, unrhyw ddydd o'r wythnos. Cofiwch y byddwch angen eich cerdyn aelodaeth a bod angen teipio eich rhif cyflawn - GWP******** - i fewn.
Fersiwn ar-lein o wyddoniadur cyfeiriol ar gyfer oedrannau gwahanol:
Cronfa ddata ar-lein o bapurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol, y gellir chwilio yn ôl teitl, dyddiad neu bwnc, gyda'r cyfleuster i arbed archifau o erthyglau yn eich cyfrif eich hun.
Gwefannau cyfeiriol ar-lein o Oxford Online, sydd yn gyfuniad o adnoddau cyfeirio sydyn ar gyfer bob math o wybodaeth.
Mae Theory Test Pro yn rhaglen ar-lein sy'n efelychu profion theori gyrru ar gyfer pob categori o gerbydau yn y Deyrnas Unedig.Mae'n cynnwys cwestiynau prawf swyddogol, wedi eu trwyddedu gan y DSA, y sefydliad sy'n gosod y profion.
Gwefan yn seiliedig ar lyfr cyfeiriol poblogaidd 'Who's Who'.
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd yn darparu defnydd o wefan Ancestry yn y llyfrgelloedd yn unig ac nid at ddefnydd yn y cartref.
- Ancestry a Find My Past - defnydd o wefannau hel achau teuluoedd, ar gyfrifiaduron cyhoeddus y llyfrgelloedd yn unig.