Pecynnau Thema
Mae'r bocsys thema a baratoir i athrawon yn parhau i fod yn adnodd gwerthfawr a defnyddiol. Mae ystod eang o lyfrau gennym i greu pecyn thema arbenigol i'ch dosbarth yn cynnwys meddalwedd cyfrifiadurol, DVDs, Sachau Stori ayyb.
- Cofiwch gysylltu mewn da bryd cyn dechrau'r tymor
- Mae pob pecyn yn cael ei greu yn arbennig i ateb gofyn penodol
- Os oes gennych gais arbennig am lyfr gwnawn ein gorau i gyflenwi'r cais hwnnw
NEWYDD - ar gael yn fuan: Bocsys Thema Cyfnod Sylfaen
Cyfres o focsys parod yn cynnwys adnoddau megis llyfrau a gemau yn ogystal ag offer darganfod a chwarae ar gyfer y cyfnod sylfaen.
Ceir 10 o themâu: Teithio, Yr Ysgol, Rhew ac Eira, Tai a Chartrefi, Nos a Dydd, Enfys Liwiau, Gofalu am ein Byd, Y Fferm, Myfi fy Hun ac yn olaf, Bwyd.
I archebu adnoddau am y tymor-:
Llyfrau Darllen Grŵp
Mae gennym ystod eang o lyfrau darllen grŵp gan awduron Cymraeg a Saesneg i gyd-fynd â gwaith thema. Gallwn hefyd brynu llyfrau darllen grŵp ar gais penodol.
Bocsys Awduron
Rydym wedi creu Bocsys Awduron sy'n cynnwys setiau darllen grŵp ac amryw o deitlau unigol a gwybodaeth am yr awdur.
Deunyddiau Clyweled
Mae gennym ddetholiad eang yma gan gynnwys DVDs/Fideos, CD Romau, E-Big Books a rhai o'r gyfres BBC Whiteboard Active.
Sachau Stori
Adnodd arbennig o addas ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Mae'r sachau'n cynnwys stori Gymraeg yn ogystal â stori Saesneg i gyd-fynd â'r thema ynghyd a gemau, teganau a gweithgareddau amrywiol.
Bocsys SIY/EAL
Mae'r adnoddau hyn wedi eu creu ar gyfer disgyblion Bl 5 a 6 sydd yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol. Maent wedi eu seilio ar un llyfr stori gydag amryw o weithgareddau llafar eu naws i gyd fynd â'r thema gan gyflwyno geirfa syml a chyffredin.
Bocsys Arteffactau
Bocsys hanesyddol/diwylliannol eu naws wedi eu creu o gwmpas themâu poblogaidd. Maent yn cynnwys atgynhyrchiadau o arteffactau yn ogystal ag adnoddau gweledol megis llyfrau, lluniau neu fideo/DVD.
Bag Books
Cafodd 'Bag Books' eu creu i gwrdd â'r galw am adnoddau arbenigol ar gyfer plant ag anawsterau ac anableddau dysgu.
Maent yn hynod addas ar gyfer plant gydag anghenion arbennig on gellid eu defnyddio gyda phlant yn ystod oed cynnar y Cyfnod Sylfaen.
Straeon aml synhwyraidd ydynt wedi eu gosod ar gerdyn trwchus. Mae stori syml wedi ei hysgrifennu ar un dudalen o gardfwrdd sydd wedi ei lamineiddio. I gyd-fynd a phob darn o'r stori ceir tudalen gardfwrdd ac arni adnodd aml synhwyraidd. Mae'r cynnwys synhwyraidd yn rhoi cyfle i blant ymuno yn y broses o ddweud ac actio'r stori.
Help Llaw Mewn Llyfr
Casgliad o lyfrau yn delio gyda sefyllfaoedd arbennig i blant, megis materion ymddygiad, materion emosiynol fel unigrwydd a phryder, a sefyllfaoedd personol a theuluoedd megis galar a phrofedigaeth, maethu, torpriodas, ac ati.