Mae’n debyg felly y bydd cyrsiau undydd gan Wasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd a fydd yn rhoi arweiniad i bobl am sut i fynd ati i gychwyn olrhain eu hachau yn boblogaidd iawn.
Bydd y cyrsiau undydd a fydd yn cael eu cynnal yn Archifdy Caernarfon cael eu harwain gan staff arbenigol y Cyngor a fydd yn rhoi canllawiau ar sut i gychwyn olrhain hanes eich teulu.
Bydd cyfle i rheini fydd yn mynychu’r cyrsiau i edrych ar wahanol fathau o ffynonellau a thystiolaeth, yn ogystal a siawns i holi’r archifyddion gydag unrhyw gwestiynau am y maes.
Dywedodd Lynn Crowther Francis, Uwch Archifydd gyda Chyngor Gwynedd:
“Rydym yn gobeithio y bydd y cyrsiau hyn yn gyfle i unrhyw un sydd â diddordeb mewn olrhain hanes eu teulu i weld yr holl gofnodion hanesyddol diddorol sydd ar gael, ac fod cyfle arbennig iddynt wneud defnydd o’r cyfleusterau yma yn archifau Cyngor Gwynedd.
“Mae cyrsiau tebyg sydd wedi eu cynnal yn y gorffennol wedi profi yn boblogaidd iawn, ac rydym yn hyderus y bydd nifer o aelodau’r cyhoedd yn awyddus i archebu lle ar y cyrisau yma hefyd, felly cofiwch i gadw lle os ydych chi’n awyddus i fynychu un o’r cyrsiau. Y cyntaf i’r felin.”
Cynhelir y cyrsiau ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Llun, 8 Rhagfyr 2008: Cwrs Hanes Teulu (Cymraeg)
Lleoliad: Archifdy Caernarfon
Amser: Cwrs diwrnod yn cychwyn am 10.30am - Dydd Llun, 19 Ionawr 2009: Cwrs Hanes Teulu (Saesneg)
Lleoliad: Archifdy Caernarfon
Amser: Cwrs diwrnod yn cychwyn am 10.30am
Mae’n angenrheidiol i archebu lle ar y cyrsiau. Os am archebu lle cysylltwch â:
Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd ar 01286 679095/ 679092 (Caernarfon); 01341 424681 (Dolgellau), neu ebostiwch: archifau.caernarfon@gwynedd.gov.uk