Roedd Owen Ian Pritchard, sydd wedi ei gofrestru’n ddall, o Coed y Parc, Bethesda, wedi pledio’n ddi euog i ddau gyhuddiad o dderbyn Budd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor mewn modd anonest rhwng Awst 2004 a Mawrth 2007.
Roedd Mr Alwyn Jones, a oedd yn erlyn ar ran y Cyngor, wedi dweud wrth y Llys fod Mr Pritchard wedi cwblhau ffurflen gais am Fudd-dal Tai yn anonest trwy beidio datgan arni fod ei wraig yn gweithio’n llawn amser.
Ni wnaeth Mr Pritchard gynnig unrhyw esboniad ynglŷn â pham y bu iddo beidio cynnwys ennillion ei wraig yn ei ffurfleni cais am Fudd-dal Tai a Threth Cyngor.
Cafodd yr ynadon Mr Pritchard yn euog o’r ddau gyhuddiad. Roeddynt yn cytuno gyda’r Cyngor fod Mr Pritchard wedi ymddwyn yn anonest er mwyn derbyn budd-dal trwy beidio datgan fod ei wraig yn gweithio a hefyd o fod yn anonest trwy beidio gadael i’r Cyngor wybod am newid yn ei amgylchiadau.
Nododd yr ynadon hefyd fod Mr Pritchard wedi cyfaddef mewn cyfweliad gyda swyddogion o’r Cyngor mai ei gyfrifoldeb ef oedd gadael i’r Cyngor wybod am bob newid yn ei amgylchiadau.
Bydd Mr Pritchard, sydd â ddyfarniadau blaenorol am dwyll budd-dal, yn cael ei ddedfrydu ar 24 Hydref yn Llys Ynadon Llangefni.
Cyfanswm y gost mewn arian cyhoeddus, fydd raid cael ei dalu’n ôl gan Mr Pritchard, oedd £10,660.