Yng nghyfarfod y Cyngor llawn heddiw (16 Hydref), cefnogodd Cynghorwyr Gwynedd yn unfrydol yr argymhellion canlynol:
- Cytuno i’r bwriad i gyhoeddi rhybuddion statudol i gau Ysgol Rhydyclafdy erbyn 3 Ebrill 2009;
- Cytuno i’r bwriad i gyhoeddi rhybuddion statudol i gau Ysgol Croesor erbyn 31 Awst 2009;
- Cytuno i’r bwriad i gynnal cyfnod o ymgynghori statudol ar y bwriad i gau Ysgol Llawrybetws erbyn 31 Awst 2009 neu 31 Rhagfyr 2009.