Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2008 > Hydref
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Hydref |
 

Dysgu mwy am beth sydd ar gael yn yr Archifdy

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes lleol neu awydd olrhain eich coeden deulu, ond ddim yn siŵr sut mae mynd ati i ganfod yr wybodaeth yr ydych chi ei angen o’r archifdy lleol?

Os felly, efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn mynychu cwrs blasu arbennig sydd wedi ei drefnu gan Wasanaethau Archifai Cyngor Gwynedd yn Archifdy Caernarfon.

Bydd cyrsiau hanner diwrnod arbennig yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn, 8 Tachwedd gyda chymorth ar gael gan staff Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Roy Owen, Arweinydd Portffolio Dysgu Gydol Oes Cyngor Gwynedd, sydd â chyfrifoldeb am Archifdai’r Cyngor:

“Mae pob math o ddogfennau hanesyddol o bwys ar gael i’w gweld yn Archifdai Cyngor Gwynedd, a bydd y sesiynau blasu arbennig yma yn gyfle gwych i aelodau’r cyhoedd gael gwybod mwy am sut i ddod o hyd i’r wybodaeth werthfawr yma.

"Rydym yn gobeithio y bydd nifer o aelodau’r cyhoedd yn gwneud y mwyaf o’r sesiynau.”

Bydd cwrs blasu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gynnal rhwng 10am a 12pm ar fore Sadwrn, 8 Tachwedd yn Archifdy Caernarfon, a chwrs trwy gyfrwng y Saesneg rhwng 2pm a 4pm.

Mae gofyn i unrhyw un sy’n awyddus i fynychu i archebu lle ar y cyrsiau. Am fwy o fanylion, neu os ydych yn awyddus i archebu lle, cysylltwch â Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd ar (01286) 679095/679092 neu e-bostiwch: archifau.caernarfon@gwynedd.gov.uk


 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 13/10/2008
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]