Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2008 > Medi
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Medi |
 

Comisiynydd Plant Cymru yn ymweld â Phlas Pawb, Caernarfon

Bydd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru yn ymweld â Chanolfan Integredig Plant Cyngor Gwynedd, Plas Pawb yng Nghaernarfon ar ddydd Mawrth, 7 Hydref.

Yn ystod mis Hydref bydd y Comisiynydd yn teithio ledled Cymru fel rhan o’i daith ‘Amser i Siarad - Amser i Wrando’ yn ymweld â phlant a phobl ifanc ym mhob sir.

Yn ystod y daith bydd Keith Towler yn siarad am ei rôl newydd ac am waith ei swyddfa.

Bydd hefyd yn gyfle i holi plant a phobl ifanc am yr hyn sy’n bwysig iddynt hwy a beth allai’r Comisiynydd wneud i wella eu bywydau.

Cyn ei ymweliad, dywedodd Keith Towler:

“Cyfarfod â phlant a phobl ifanc Cymru a gwrando ar beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud yw’r peth gorau am fy swydd.

“Mae ein taith ledled Cymru ‘Amser i Siarad – Amser i Wrando’ yn fy ngalluogi i a gweddill fy nhîm i gyfarfod dros 1,000 o blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru i godi ymwybyddiaeth o waith fy swyddfa ac i drafod materion gallwn ni ddelio a hwy i wella eu bywydau”

Dywedodd Gareth Jones, Rheolwr Plas Pawb:

“Mae’n bleser gennyf groesawu'r Comisiynydd yma i Blas Pawb ym Maesincla fel y gall weld sut mae cael canolfan fel hyn yn ein galluogi i gynnig cyfleoedd i wella bywydau plant yr ardal.”

Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Strategol Arweiniol Cyngor Gwynedd ar faterion plant a phobl ifanc a Chadeirydd Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc Gwynedd, ei fod yntau yn falch o weld Keith Towler yn ymweld â’r ardal.

Meddai: “Yma yng Ngwynedd rydym wedi bod yn datblygu cynllun ymyrraeth gynnar sy’n adnabod anghenion plant cyn gynted a bo modd.

“Mae Plas Pawb yn ganolog i’r cynllun blaengar yma a byddwn yn falch o’r cyfle i ddangos y gwaith da sy’n cael ei wneud yng Ngwynedd i Mr Towler.”



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 29/09/2008
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]