Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2008 > Medi
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Medi |
 

Hwb ariannol i glybiau chwaraeon Gwynedd

Pêl-droed
Pêl-droed

Mae naw o glybiau a sefydliadau chwaraeon Gwynedd am elwa o hwb ariannol y meant wedi ei sicrhau drwy Gist Gymunedol Sportlot y sir.

Mae panel Sportlot Gwynedd yn ddiweddar wedi dyfarnu grantiau i naw o sefydliadau chwaraeon a fydd yn defnyddio’r arian er mwyn cefnogi datblygiad amrywiaeth o weithgareddau corfforol a chwaraeon ledled y sir. Gall sefydliadau chwaraeon elwa ar hyd at £1,000 trwy gronfa Gist Gymunedol Sportlot Cyngor Gwynedd.

Dywedodd Elwyn Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cyngor Gwynedd:

“Rydym yn falch iawn fod cymaint o glybiau a sefydliadau lleol wedi gwneud y mwyaf ar gefnogaeth ariannol cronfa Sportlot.

“O gefnogi datblygiadau timau ieuenctid pêl-droed, i gefnogi hyfforddwyr trampolinio i allu ceisio am gymwysiadau hyfforddiant perthnasol, mae’r neges yn glir fod cefnogaeth ar gael i unrhyw sefydliad o fewn y sir sy’n awyddus i ddatblygu neu wella eu darpariaeth chwaraeon.

“Ein nod yn syml yw sicrhau fod pobl ledled y sir yn gallu elwa ar gyfleon ar gyfer gweithgareddau corfforol a chwaraeon o’r safon gorau yn eu clwb lleol.”

  • Mae’r clybiau a’r sefydliadau chwaraeon a fu’n llwyddiannus yn y rownd ddiweddaraf o arian grant Sportlot yn cynnwys:
    Clwb Pêl-droed Ieuenctid y Bala - i archebu goliau ar gyfer eu cae newydd ac i alluogi cynnydd mewn rheini sy’n cymryd rhan, yn benodol ar lefel dan 16.
  • Clwb Trampolinio Bangoroos - i gynyddu ymhelwch y potensial ar gyfer rheini all gymryd rhan trwy gymhwyso chwech yn rhagor o hyfforddwyr i lefel 2 a chwech arall i lefel hyfforddwyr anghenion arbennig.
  • Therapi Tai Chi - i uwchraddio cymwysterau hyfforddi ac arbenigedd hyfforddiant er mwyn sefydlu grŵp newydd ym Mlaenau Ffestiniog yn ogystal â thri grŵp pellach ar gyfer dechreuwyr. Bydd y cynllun hwn yn addas ar gyfer pobl sydd â chryd cymalau a phroblemau cyhyrsberbydol.
  • Clwb Antur Glaslyn – ar gyfer offer newydd a fydd yn sicrhau mwy o gyfleon i aelodau presennol y clwb a rhai newydd i gael profiad o ddringo y tu mewn a’r tu allan.
  • Clwb Pêl-droed Ieuenctid Bethel - i ddarparu tri aelod newydd gyda Gwobrau Arweiniol Pêl-droed a hyfforddiant cymorth cyntaf fel y gallant hyfforddi timau ieuenctid.
  • Clwb Bowlio’r Friog - i archebu offer newydd er mwyn gallu darparu cyfleon newydd i’r gymuned allu cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol iach a hefyd i gyflwyno plant ysgol i’r gamp.
  • Clwb Pêl-droed Ieuenctid Penrhyndeudraeth – i gymhwyso pum person fel arweinyddion pêl-droed ac i ddarparu cit ac offer newydd a llogi cyfleuster fel y gellir sefydlu tîm dan 16 i fechgyn.
  • Clwb Gymnasteg Y Bala – i anfon tri aelod ar gwrs hyfforddi lefel 1 er mwyn gwella cyfranogiad ac i ddarparu sesiynau ychwanegol.
  • Clwb Pêl-droed Iau Harlech – i ddarparu addysg hyfforddi, llogi cyfleuster ac archebu offer newydd fel y gellir cynnwys tîm 12 oed llawn (11 bob ochr) yng Nghynghrair Llyn ac Eifionydd.


Mae’r dyddiadau ar gyfer cyflwyno ceisiadau am arian Sportlot yn 2008 –2009 fel a ganlyn:

  • 13 Hydref 2008 gyda cheisiadau i’w hystyried mewn cyfarfod ar 3 Tachwedd 2008
  • 12 Ionawr 2009 gyda cheisiadau i’w hystyried mewn cyfarfod ar 2 Chwefror 2009.
         

Mae ffurflenni cais ar gyfer Cist Gymunedol Sportlot ar gael gan Jane Eade ar (01758) 704 010.

Am gyngor wrth ymgeisio am gymorth Sportlot, cysylltwch ag Elwyn Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cyngor Gwynedd ar (01758) 704067, neu David Lloyd-Williams, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cynorthwyol ar (01758) 704057.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 18/09/2008
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]