Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2008 > Medi
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Medi |
 

Budd-dal tai – dirwy i ddyn o Dremadog

Mewn achos yn Llys Ynadon Pwllheli ar ddydd Gwener, 12 Medi, 2008 plediodd Brian Benjamin Farrell o Dremadog, Porthmadog yn euog i un cyhuddiad o fethu hysbysu Cyngor Gwynedd yn brydlon o newid yn ei amgylchiadau er ei fod yn gwybod y byddai yn effeithio ei deilyngdod i Fudd-dal Tai.

Dywedodd Alwyn Jones, a oedd yn erlyn ar ran Cyngor Gwynedd, fod Mr Farrell wedi peidio dweud wrth Uned Budd-daliadau Cyngor Gwynedd fod ganddo gyfalaf sylweddol mewn banc yn Awstralia.

Roedd cyfanswm y gor-daliad o Fudd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Cyngor yn £2,556.91.

Dywedwyd hefyd wrth y Llys fod Mr Farrell eisioes wedi talu’r arian yma yn ôl i’r Cyngor.
 
Wrth ddedfrydu Mr Farrell i ddirwy o £350 dywedodd yr Ynadon eu bod wedi ystyried iddo bledio’n euog yn gynnar, ond yr oeddynt hefyd yn ymwybodol nad oedd angen budd-dal ar Mr Farrell a’i bod yn ymddangos fod y drosedd yn ganlyniad iddo fod yn farus.

Gorchmynwyd iddo hefyd dalu £150 tuag at gostau’r erlyniad a £15 o ordal.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 16/09/2008
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]