Gwella bywydau trwch y boblogaeth drwy atal lleiafrif rhag difetha'r amgylchedd yw bwriad cynllun newydd gan Gyngor Gwynedd a fydd yn mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol.
Gall problemau megis sbwriel, baw ci, graffiti a phosteri anghyfreithlon fod yn dorcalonnus i’r mwyafrif llethol o bobl Gwynedd sy’n ymfalchïo yn eu cymuned ac eisiau byw mewn ardal lân a thaclus.
Fel rhan o’r gwaith o daclo’r fath ymddygiad, mae Cyngor Gwynedd wedi arwyddo cytundeb gyda Heddlu Gogledd Cymru sy’n eu galluogi i weithio gyda'i gilydd i fynd i’r afael â'r math yma o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac i annog dinasyddiaeth dda.
Bydd wardeiniaid stryd newydd Cyngor Gwynedd i’w gweld yn ein trefi a phentrefi yn y dyfodol agos. Byddant yn gweithio law yn llaw efo Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH) i fynd i’r afael â’r bobl sy’n gyfrifol am y problemau hyn.
Mae hyn yn newyddion da yn ôl y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Wardeiniaid y Cyngor a Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu fydd llygaid a chlustiau'r cynllun. Bydd yr hawl ganddynt i roi rhybudd talu cosb am droseddu amgylcheddol.
“Mae pobl o hyd yn sôn am ba mor hunanol ac anystyrlon yw rhai sy’n gollwng ysbwriel neu’n gadael i’w cŵn faeddu ar y stryd. Byddwn yn cymryd y troseddau hyn o ddifrif a thrwy weithio gyda’r heddlu mae’r Cyngor yn disgwyl gweld gostyngiad yn y nifer o achosion o’r math yma, a fydd yn sicrhau amgylchedd o ansawdd i drigolion Gwynedd.”
Ychwanegodd yr Arolygydd Gareth Wynne o Heddlu Gogledd Cymru:
“Dyma enghraifft arall o Heddlu Gogledd Cymru yn cyd-weithio â Chyngor Gwynedd i daclo materion sydd yn poeni ein cymunedau lleol. Caiff troseddau amgylcheddol megis ysbwriel, graffiti a baw ci effaith negyddol ar safonau byw ein cymunedau lleol.
“Mae angen dangos i droseddwyr fod ymddygiad o’r fath yn wrthgymdeithasol ac yn annerbyniol.”