Bydd y cwrs sy'n cael ei gefnogi gan Gynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd yn cychwyn nos Iau, 2 Hydref (gwers gyntaf am ddim) ac yna pob nos Iau tan 27 Tachwedd ac yn cael ei gynnal yn Galeri, Caernarfon rhwng 7pm a 9pm. Cost y cwrs sy'n cynnwys wyth gwers fydd £40. Bydd croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Galeri ar 01286 685222, neu Gwen Lasarus 01286 679465 neu e-bostiwch: gwenlasarus@gwynedd.gov.uk
Cefnogir Cynllun Hyrwyddo Gwynedd ar y cyd rhwng yr Academi a Chyngor Gwynedd. Yr Academi yw'r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru.