Roedd y digwyddiad yma yn gyfle arbennig i ddathlu llwyddiannau unigolion a'r grwpiau mae Genesis Gwynedd wedi eu cynorthwyo yn ystod y misoedd diwethaf.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Genesis Gwynedd, Angharad ab Iorwerth:
"Roedd hyn yn ddiwrnod pwysig iawn yn hanes y prosiect yma yng Ngwynedd, ac yn gyfle arbennig i ni ddathlu llwyddiant pawb sydd wedi gwneud y mwyaf o'r prosiect ar draws y sir.
"Mae yna lawer iawn o waith caled wedi ei wneud i gynorthwyo unigolion dihyder i roi'r cyfle iddyn nhw ddatblygu eu hunain ar gyfer mynd i waith neu hyfforddiant. Drwy gyd-weithio efo asiantaethau a rhaglenni eraill sydd ar gael, mae Genesis Gwynedd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i lawer iawn o drigolion y sir."
Mae cynllun Gwynedd yn rhan o gynllun cenedlaethol Genesis Cymru, sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop Amcan 1 ac Amcan 3. Dechreuodd y prosiect yng Ngwynedd yn Hydref 2006 er mwyn rhoi cychwyn newydd i unigolion a'u galluogi i wireddu eu breuddwydion.
Mae tîm Genesis Gwynedd wedi cynnig cefnogaeth arbennig i unigolion ledled Gwynedd gan gynnig cefnogaeth un i un a mentora, cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant, cyflogaeth, hunangyflogaeth a gwirfoddoli; cefnogaeth a mentora ar fod yn warchodwyr plant cofrestredig; cymorth gofal plant ar gyfer digwyddiadau hyfforddiant; creu rhwydwaith newydd ar gyfer gofal plant; ac amryw o weithgareddau grŵp eraill.
Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Strategol - Datblygu Cyngor Gwynedd:
"Mae dathlu llwyddiant prosiect Genesis a'r unigolion ynghlwm a'r prosiect yn hanfodol gan ei fod wedi chwarae rhan allweddol mewn ymateb i anghenion unigolion ar draws y sir. Mae tîm Genesis Gwynedd wedi darparu amrywiaeth eang o gymorth i unigolion a grwpiau amrywiol yn lleol, ac roedd llwyddiant hynny i'w weld yn y seremoni dathlu."
Yn ystod bore y seremoni, darparwyd sesiwn harddwch i'r gwahoddedigion gan fyfyrwyr a thiwtoriaid Adran Harddwch, Coleg Meirion Dwyfor. Cyflwynwyd gwobrau arbennig wedi eu cerfio o gopr a llechen a oedd wedi eu creu yn arbennig ar gyfer y seremoni gan yr arlunydd Paul Thomas, Creative Mountains.
Roedd pum categori yn cael eu gwobrwyo yn y digwyddiad ym Mhortmeirion:
Llwyddiant i Waith - Gavin Williams o Ddeiniolen
Pan ddaeth Gavin at Genesis am y tro cyntaf, roedd o'n ddigon digalon gan nad oedd ganddo waith na chartref. Bu'n lwcus iawn i gael symud i fyw at ei fodryb, ac yna mynychodd gwrs City and Guilds 2381 Gold Electrical Courses yn Llundain a fu'n gymorth mawr iddo wrth ganfod gwaith. Mae o wedi bod yn weithgar a phenderfynol.
Llwyddiant i Wirfoddoli - Glory Voma o Fangor
Cyfeirwyd Glory at Genesis Gwynedd gan Working Links. Roedd hi angen cymorth gyda gofal plant er mwyn iddi fedru mynychu ei gwaith gyda'r Canolfan Gynghori (CG) yn Llangefni. Yn ôl Vicky Norton o'r CG mae hi yn aelod gweithgar iawn o'r staff. Mynychodd sesiynau codi hyder "Style Doctors" trwy Genesis.
Llwyddiant i Fentergarwch - Colin Jones o'r Bala
Gwasanaeth Llygad Busnes a gyfeiriodd Colin at brosiect Genesis. Yn dilyn cael trawiad ar y galon, nid oedd Colin yn gallu parhau gyda'i gwaith, a bu'n rhaid iddo wneud cais am fudd-daliadau. Roedd yn awyddus i fynd yn ôl i weithio, ac i gael swydd nad oedd yn rhy egniol. Drwy gyd-weithio gyda Brocer Cymru a Llygad Busnes fe gafodd gymorth i fynychu hyfforddiant Fframio Lluniau ac i brynu offer. Mae bellach wedi sefydlu'r busnes o'i gartref ac mae'n fframio lluniau i'r galeri lleol.
Llwyddiant i Hyfforddiant - Darren Wyn Lloyd o Gaernarfon
Fe gafodd Darren ei gyfeirio at brosiect Genesis gan Llwyddo'n Lleol gan ei fod eisiau mynd yn Waredwr Pla (Pest Controller). Roedd Darren wedi cael amser caled iawn gan fod ei fam wedi marw o gancr ac yn fuan iawn wedyn fe wnaeth o dorri ei goes yn ddrwg. Bu i Darren gael ei roi mewn gofal pan fu farw ei fam. Mae Darren yn aros i gael llawdriniaeth ar ei goes. Bydd Darren yn dechrau ar gyfnod o brofiad gwaith gydag Uned Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd yn fuan.
Llwyddiant arbennig - Dona Morris o Bwllheli
Daeth Dona Morris at Genesis Gwynedd er mwyn cael cymorth i godi ei hyder. Fe wnaeth fynychu sesiwn "Style Doctors" Genesis ond fe gymerodd ddeg munud i fynd i mewn i'r ystafell oherwydd ei diffyg hyder. Mae hi hefyd yn mynychu cwrs Sgiliau pawb yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Ym mis Chwefror fe wnaeth Dona gael cyfweliad am swydd Gweithiwr Cefnogol gyda Chynllun Ieuenctid, er na chafodd y swydd mae Dona wedi rhoi ei henw i lawr i wirfoddoli er mwyn datblygu ei sgiliau yn y maes.
Yn ystod y seremoni gwobrwyo fe gafwyd hefyd ddatganiad llais gan Lisa Tarbuck o Gaernarfon, unigolyn arall i Genesis roddi cymorth iddi. Roedd Lisa wedi derbyn cymorth i fynd am wersi canu gyda Chanolfan Gerdd William Mathias er mwyn codi ei hunanhyder. Doedd Lisa ddim yn gallu canu'r un nodyn pan fynychodd hi'r gwersi am y tro cyntaf, ond mwynhaodd bawb y perfformiad gwych a diolchwyd yn fawr iddi am ei pharodrwydd i berfformio. Cyflwynwyd tocyn mynediad yn rhoddedig gan Barc Gelli Gyffwrdd (Greenwood Forest Park) i Lisa er mwyn iddi fynd a'r teulu i fwynhau ei llwyddiant a'i hyder.
Fe wnaeth Lisa annerch y gynulleidfa gan ddweud pa mor anodd mae pethau wedi bod iddi hi a'r plant yn ddiweddar:
"Mae hyn yn gyfle newydd i mi a'r teulu ac mae lle i ddiolch i Genesis am roi'r cychwyn newydd yma i ni!" meddai Lisa.
Recordiwyd y dathliad gan gwmni teledu Chwarel, a bydd cyfle i chi ail-fyw'r cyfan yn fuan, gan y bydd yn cael ei roddi ar wefan Genesis Cymru Gwynedd er mwyn ysbrydoli eraill i ddelio ag anawsterau personol a datblygu hunan hyder er mwyn symud ymlaen.
Am ragor o fanylion cysylltwch â Genesis Cymru Gwynedd ar 01766 522 586 neu e-bostiwch genesis@gwynedd.gov.uk.