Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2008 > Mawrth
 

Tai Gofal Ychwanegol - Hwb i'r Bala a Ffestiniog

Bydd gan bobl hŷn yn y Bala a Ffestiniog fynediad yn fuan i Dai Gofal Ychwanegol, yn dilyn cadarnhad fod Cyngor Gwynedd wedi sicrhau £8.6 miliwn o arian Llywodraeth y Cynulliad.

Gall Gyngor Gwynedd nawr fwrw ymlaen mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Tai Clwyd yn y Bala i ddarparu 30 o unedau Tai Gofal Ychwanegol, a chyda Chymdeithas Tai Eryri yn Ffestiniog i ddarparu 40 o unedau Tai Gofal Ychwanegol. Bydd yr unedau yn cynnwys gofal ar safle a bydd cyfleusterau wedi eu cynllunio'n arbennig i gefnogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol a diogel yn eu cartrefi eu hunain.

Dywedodd Dafydd P Lewis, Cyfarwyddwr Strategol - Gofal Cyngor Gwynedd:

"Rydym yn falch iawn o glywed y cyhoeddiad, bydd hyn yn dod a budd sylweddol i ardaloedd y Bala a Ffestiniog. Rydw i'n edrych ymlaen at weld y gwaith adeiladu yn cychwyn ar y prosiect mor fuan â phosib, ac rydw i'n hyderus y bydd y datblygiadau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i safon gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn yn y ddwy ardal.

"Gyda chefnogaeth gan Gymdeithas Tai Eryri a Chymdeithas Tai Clwyd, bydd y prosiectau yn sicrhau cyfanswm buddsoddiad o £14 miliwn ar gyfer y ddwy gymuned."

Bydd y lletya yn y Bala a Ffestiniog yn cynnwys cymysgedd o unedau un a dwy ystafell wely gyda'r cyfleusterau gofal diweddaraf a thechnoleg a all addasu i newid anghenion y preswylydd. Gall cyfleusterau cymunedol ym mhob datblygiad gynnwys bwyty, ystafell gweithgareddau, lle trin gwallt, siop fechan ac ystafell ar gyfer ymwelwyr.

Rhagwelir y bydd gwaith ar safle'r Bala yn cychwyn yn 2009/2010 a 2011/2012 yn Ffestiniog.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 25/03/2008
 

Gweler Hefyd

Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]