Bu Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd, Cymdeithas Tai Penygwndwn, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gangiau Cymunedol Cyngor Gwynedd, Cadw Cymru'n Daclus, Y Gwasanaeth Prawf a'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn taclo problemau fel ysbwriel ar y stryd a'r gerddi, ac mewn ardaloedd cyhoeddus eraill o amgylch yr ystad. Yn ystod y diwrnod, cafodd 18 sgip eu llenwi gyda chefnogaeth gan Sgipiau Blaencefn.
Sicrhawyd ariannu'r diwrnod gan PC Dewi Wynne o Heddlu Gogledd Cymru yn dilyn cais llwyddiannus gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac O2. Cafodd lluniaeth ei ddarparu gyda chymorth gan gwmni arlwyo Snack Attack Catering yn dilyn derbyn arian gan Cymunedau'n Gyntaf a Tesco.
Manteisiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y cyfle i gynnig cymorth diogelwch rhag tân i'r trigolion, a chafodd archwiliadau tân eu cynnal yn y cartrefi, a larymau tan eu gosod lle roedd angen.
"Mae'r trigolion yn gwerthfawrogi'r gwaith glanhau, a'r cyfle i wneud eu hystad yn lle glân a thaclus. Y gobaith yw y bydd hyn yn annog pawb i gadw'r amgylchedd yn daclus ac i beidio â thaflu ysbwriel yn y dyfodol," meddai Colin Hughes, Cadeirydd Cymdeithas Tai Penygwndwn.
Dywedodd Shan Ranson, Swyddog Stadau Cyngor Gwynedd:
"Prif nod y diwrnod oedd annog trigolion i weithio gydag asiantaethau allanol i wella ansawdd bywyd ar yr ystad, yn ogystal â gwneud ymdrech i leihau ymddygiad gwrth-gymdeithasol, gwella diogelwch y cyhoedd a rhoi sicrwydd a hyder i'r cyhoedd fod asiantaethau ar gael i ddelio a materion sy'n achosi pryderon iddynt."
Ychwanegodd Humphrey Jones, Uwch Swyddog Datblygu Cymunedol Cyngor Gwynedd:
"Yn dilyn cais llwyddiannus am arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Gwynedd, ein bwriad yw y bydd ystad Penygwndwn yn derbyn cyfarpar chwarae newydd, a man eistedd i rieni, a bydd y cyfan wedi ei ffensio er mwyn sicrhau diogelwch y plant wrth iddynt chwarae.
Dywedodd PCSO Lona Davenport o Heddlu Gogledd Cymru:
"Mae cymdogaeth lân yn arwain at leihad mewn ymddygiad gwrth-gymdeithasol a throseddau. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn annog trigolion yr ardal i gymryd cyfrifoldeb dros ansawdd yr amgylchedd yn eu cymdogaeth, ac i gymryd balchder yn edrychiad yr ardal. Mae'r diwrnod yn ffordd wych i'r gymuned weld ein bod ni yn Heddlu Gogledd Cymru yma i'w helpu, ac yn ffordd wych o wella cyfathrebu."
Fe wnaeth Gerallt Hughes, Ymarferydd Diogelwch y Sir ar gyfer Gwynedd hefyd wahodd yr holl drigolion i fanteisio ar archwiliadau diogelwch cartref rhad ac am ddim gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
"Os ydych chi, fel trigolion Penygwndwn, yn awyddus i elwa o archwiliadau tân yn eich cartref, ffoniwch 0808 1002863, ewch i www.nwales-fireservice.org.uk neu anfonwch e-bost i cfs@nwales-fireservice.org.uk gyda'ch manylion cyswllt. Bydd aelod o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yna mewn cysylltiad er mwyn trefnu amser cyfleus i ymweld â'ch cartref," meddai.