Dros y blynyddoedd, daeth i'r amlwg mai dim ond ychydig iawn o drigolion Gwynedd oedd yn manteisio ar y cyfleoedd awyr agored o'u cwmpas naill ai fel ffordd o wella ffitrwydd neu fel llwybr gyrfa ddiddorol yn y maes awyr agored.
Fodd bynnag, diolch i arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru, ffurfiwyd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru i fynd i'r afael â'r broblem hon yn ôl ym mis Ebrill 2005 ac ers hynny mae pethau wedi mynd o nerth i nerth.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Iwan, Uwch Arweinydd Datblygu Cyngor Gwynedd:
"Gweledigaeth y Bartneriaeth yw fod Gwynedd yn lle da i fyw ac i weithio, a'n prif adnodd naturiol yw ein tirwedd fendigedig.
"Ein bwriad yw creu ardal fywiog, iach a chynhwysol, gyda lle amlwg i weithgareddau hamdden awyr agored. Mae gweithgareddau o'r fath yn fodd i bobl gael hwyl, i gymryd rhan a chyfrannu, ac i ddatblygu eu cyrhaeddiad.
"Ond mae'r sector awyr agored hefyd yn ffynhonnell swyddi amrywiol a diddorol, ac mae'n bwysig fod ein pobl ifanc yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael trwy amgylchedd naturiol anhygoel Gwynedd."
Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Strategol Cyfadran Datblygu Cyngor Gwynedd:
"Ein hamcan yw rhoi'r pwyslais ar wneud y mwyaf o asedau'r ardal a'r adnoddau naturiol o fewn ein milltir sgwâr yn benodol ar gyfer hybu'r economi'r ardal a rhoi cyfle i bobl ifanc fentro'n lleol ym myd gweithgareddau agored."
Ers sefydlu'r bartneriaeth mae'r weledigaeth hon wedi troi'n wirionedd ymarferol, gyda thros 22 o glybiau o bob math - yn amrywio o gaiacio i feicio mynydd ac o abseilio ac angori rhaff i hwylio a dringo awyr agored - yn cael ei sefydlu ledled y Sir.
Dywedodd Mark Jones, Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Cyngor Gwynedd:
"Yn ystod 2008 bydd clybiau caiacio newydd yn cael eu sefydlu ym Mlaenau Ffestiniog, Tywyn a Phorthmadog, tra bydd gweithgareddau awyr agored, gan gynnwys clybiau dringo a gweithgareddau dŵr yn cael eu sefydlu yn ardal Bro Ffestiniog a Dyffryn Peris. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd llawer o drigolion y sir yn ogystal ag ymwelwyr yn manteisio ar y cyfleoedd gwych sydd ar gael."
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Bartneriaeth, www.partneriaethawyragored.co.uk neu cysylltwch â Mark Jones, Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored ar 01766 890852 neu e-bostiwch: MarkAndrewJones@gwynedd.gov.uk
Mae'r cynlluniau awyr agored sydd eisoes ar waith yn cynnwys:
Porthmadog:
Yn ddiweddar, mae Clwb Antur Glaslyn wedi llwyddo i sicrhau grant cyfalaf o £5,000 gan Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru er mwyn prynu cyfarpar caiacio a chanwio.
Ffurfiwyd Clwb Antur Glaslyn yn ôl yn mis Mawrth 2007 o dan arweiniad a gyda chefnogaeth Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru a Chyngor Gwynedd. Mae'r clwb yn anelu i ddarparu cyfleoedd i bobl leol gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys chwaraeon padlo.
"Bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r clwb, ac yn rhoi cyfle i Antur Glaslyn ddod yn fwy annibynnol drwy beidio â gorfod benthyg ein cyfarpar gan ddarparwyr awyr agored lleol," meddai Tracey Evans, Uwch Reolwr y Cynllun.
Ychwanegodd Cadeirydd y Clwb, Francis Filzek:
"Bydd bod berchen ar gychod agored yn galluogi'r clwb i hyrwyddo aelodaeth a chynnig gweithgareddau ar gyfer teuluoedd lleol ac aelodau iau. Bydd y cyfarpar hefyd yn ein galluogi gwirfoddolwyr hyfforddi y clwb i weithio drwy eu rhaglen hyfforddi, gan sicrhau cynaliadwyedd y clwb. Bydd aelodau'r clwb hefyd yn elwa drwy allu gweithio tuag at achrediadau, a thystysgrifau pwer padlo ar gyfer yr aelodau iau.
"Mae aelodau profiadol y clwb wedi bod yn dibynnu yn ormodol ar eu cyfarpar eu hunain. Mae diffyg cyfarpar yn ein clwb wedi bod yn rhwystr rhag cynnal gweithgareddau. Bydd y grant hwn yn hwb garw i allu darparu cyfarpar i'n aelodau ac i aelodau newydd."
Yn ystod misoedd y gaeaf, mae'r clwb wedi trefnu sesiynau caiacio ieuenctid ar brynhawn dydd Sul (3-4pm) ac ar nos Lun i oedolion (8-9pm) yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog). Am fwy o wybodaeth am y cyrsiau hyn, cysylltwch â Francis ar 01766 771 888.
Blaenau Ffestiniog:
Bu pobl ifanc ardal Bro Ffestiniog ar flaen y gad ym myd gweithgareddau awyr agored dros wythnos hanner tymor yn ddiweddar, diolch i Gyngor Gwynedd a Phartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru.
Yn ystod yr wythnos o wyliau o'r ysgol, cafodd y bobl ifanc hyn gyfle i flasu a mwynhau ystod eang o weithgareddau awyr agored gan gynnwys canŵio ar Lyn Gwynant. Bydd mwy o gyfleon o'r math yma ar gael yn fuan gyda sefydlu clwb newydd Antur Stiniog. Bydd cyfle i aelodau fwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys caiacio a dringo.
Llanberis:
Yn ardal Dyffryn Peris, bydd trigolion lleol yn gallu gwneud y mwyaf o'u hamgylchedd naturiol gyda chymorth Clwb Antur Dyffryn Peris a fydd yn cael ei gynnal yng nghanolfan gweithgareddau dŵr Parc Padarn. Yn ddiweddar mae'r clwb wedi derbyn grant o £3,000 i gynnal gweithgareddau dros y gwanwyn a'r gaeaf a fydd yn gyfle i ehangu gorwelion plant a phobl ifanc yr ardal ac yn gyfle i'r holl gymuned fanteisio ar y wlad ogoneddus o'u cwmpas.
Tywyn:
Mae ardal Tywyn ar flaen y gad ym myd gweithgareddau awyr agored diolch i Gyngor Gwynedd a Phartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru.
Dros y misoedd nesaf bydd y Cyngor yn cymryd camau breision at wella cyfleon i bobl lleol gyrraedd eu potensial trwy weithgareddau awyr agored, a hynny trwy sawl cyfrwng fydd yn manteisio ar y cyfle i fwynhau'r hyn sydd gennym o fewn ein milltir sgwâr.
Yn wir, bydd pobl leol Tywyn a'r ardal yn cael cyfle i fanteisio ar glybiau newydd fydd yn cael eu sefydlu dros y misoedd nesaf. Mae'r rhain yn amrywio o Glwb Caiacio newydd sydd ar droed ers dechrau mis Chwefror a gweithgareddau awyr agored a gynhelir tros wyliau'r hanner tymor fydd yn gyfle i ehangu gorwelion plant a phobl ifanc yr ardal ac a fydd yn gyfle i'r holl gymuned fanteisio ar y wlad ogoneddus o'u cwmpas.