Mae’r Lwfans Tai Lleol (LTL) sy'n cael ei dalu i chi yn dibynnu ym mha ardal LTL o fewn Gwynedd yr ydych yn byw, a nifer yr ystafelloedd gwely yr ydych eu hangen yn ôl y rheolau.
Mae'r ardaloedd Lwfans Tai Lleol yn cael eu galw yn Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang [AMRE], ac ers 1 Chwefror 2010, mae dwy AMRE o fewn Gwynedd.
Cliciwch ar y penawdau isod er mwyn gweld ym mha ardal AMRE yr ydych chi'n byw:
Rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Ionawr 2010 roedd 5 ardal AMRE o fewn Gwynedd. Mae mapiau o'r hen ardaloedd AMRE wedi eu hatodiad ar waelod y dudalen hon.
Mae’r AMRE yng Nghymru wedi cael eu sefydlu gan y Gwasanaeth Swyddog Rhenti, sydd yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac sy’n hollol annibynnol o Gyngor Gwynedd. Er mwyn gwirio ym mha ardal AMRE yr ydych chi'n byw, cysylltwch â ni drwy ffonio 01286 682689 neu drwy anfon e-bost at LTL@gwynedd.gov.uk
Bu’r cyfraddau LTL yn cael eu darparu’n fisol gan y Gwasanaeth Swyddog Rhenti tan Fawrth 2012, ond o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd gan y Llywodraeth, byddant yn aros heb eu newid am gyfnod o 12 mis o 1 Ebrill 2013.
I sefydlu pa raddfa ystafell wely sy’n berthnasol i chi, cyfrwch pob preswylydd unwaith yn unig, ac yn y grŵp cyntaf iddynt ymddangos ynddi isod. Caniateir un ystafell wely ar gyfer :
- pob cwpwl oedolyn (priod neu beidio)
- unrhyw oedolyn arall dros 16 oed
- unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw o dan 16 oed
- unrhyw ddau blentyn o dan 10 oed yn ddifater o ba ryw ydynt
- unrhyw blentyn arall
- ystafell wely y mae gofalwr (neu dîm o ofalwyr) nad yw'n byw yn eich cartref yn ei defnyddio
Mae’r cyfraddau wythnosol isod yn berthnasol o 1 Ebrill 2013:
Mae cyfraddau Lwfans Tai Lleol Gwynedd hefyd ar gael ar ffurf PDF er mwyn i chi allu printio copi yn rhwydd os ydych yn dymuno. Cliciwch ar yr atodiad isod i agor y ddogfen ar ffurf PDF.