Pwrpas Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd yw sicrhau datblygiad y gweithlu gofal drwy ddod â darparwyr gwasanaeth, hyfforddwyr a chynrychiolwyr y Cyngor ynghyd i sicrhau bod darpariaeth hyfforddiant a datblygiad addas ar gael yn lleol.
Mae'r Bartneriaeth yn trefnu hyfforddiant ar amrywiol bynciau ym maes gofal ar gyfer gweithwyr Cyngor Gwynedd ac asiantaethau sydd â chytundebau lefel gwasanaeth / contractau gyda'r Cyngor.
Yn yr adran hon cewch restr o'r cyrsiau hyfforddiant sydd ar gael a gallwch archebu eich lle ar gwrs drwy lenwi ein Ffurflen Archebu Hyfforddiant ar-lein. MAE'N RHAID CAEL ENW'R SAWL FYDD YN MYNYCHU NEU NI FYDDWN YN PROSESU'R CAIS. Os oes CWRS YN LLAWN wedi ei nodi ger y cwrs danfonwch e-bost at CaisHyfforddiant@gwynedd.gov.uk efallai y gallwn drefnu cwrs ychwanegol.
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am sut mae'r Bartneriaeth yn gweithio, cysylltwch â Tonwen Davies ar 01286 679026 neu e-bostiwch TonwenDavies@gwynedd.gov.uk.
Isod cewch ragor o wybodaeth am waith y Bartneriaeth wrth bori drwy'r newyddlen.
Gwadiad: Nid yw cyfeiriadau ar y tudalennau yn yr adran Datblygu'r Gweithlu, at unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu gwmni penodol yn golygu fod Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gwynedd yn eu hargymell na'u cymeradwyo.