Yn ystod y flwyddyn, mae gwaith sylweddol wedi ei wneud yng nghartref Plas Pengwaith, gyda gwelliannau wedi’u gwneud i’r system dân, a newidiadau strwythurol er mwyn gwella diogelwch a lleihau risg. Yn ogystal, mae’r cartref wedi ei ail garpedu, a llefydd ymolchi newydd wedi eu gosod gyda baddonau symudol ar gyfer pobl anabl neu fregus.
Cafwyd cyflwyniad byr gan Gadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Meinir Owen a gan Bennaeth Gwasanaethau Darparu Cyngor Gwynedd, Morwena Edwards ar y diwrnod. Hefyd yn bresennol oedd y Rheolwr y Cartref , Mrs Marylou McKeracher ac Arweinyddion Portffolio y Gyfadran Gofal a theuluoedd y preswylwyr. Bu cyfle i bawb gael eu tywys o amgylch y cartref o dan arweiniad y staff ac roedd pawb wedi plesio yn fawr.
Dywedodd Wyn Hughes, Rheolwr Uned Dydd a Phreswyl Cyngor Gwynedd:
“Hoffai’r Gwasanaeth ddiolch i’r adeiladwyr, Derwen Llun am eu gwaith da ac am yr agwedd hynod o broffesiynol a chyfeillgar a gymerwyd wrth ymgymryd â’r gwaith. Nid peth hawdd yw addasu cartref tra bod preswylwyr o fewn y cartref ac mae’n bleser gan y Gwasanaeth adrodd fod pethau wedi mynd yn dda iawn.”