Dywedodd Gwawr Davies Swyddog Gwybodaeth Gwasanaeth Gwybodaeth i Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Gwynedd:
“Bwriad y wefan yw galluogi plant, pobl ifanc a theuluoedd Gwynedd i ddod o hyd i wybodaeth am nifer o bynciau sy’n berthnasol iddynt hwn, gan gynnwys cyngor ar iechyd, datblygiad personol, digwyddiadau a chlybiau lleol yn yr ardal.
“Bydd cyfeirlyfr i wasanaethau ac asiantaethau yng Ngwynedd sy’n berthnasol i blant, pobl ifanc a theuluoedd hefyd ar gael ar y wefan, ac rydym yn hyderus y bydd y wefan newydd hon yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr iawn i drigolion Gwynedd.”
Yn ddiweddar cynhaliwyd cystadleuaeth ymhlith holl blant a pobl ifanc Gwynedd i ddod o hyd i enw ar gyfer y wefan newydd, gyda iPod nano fel gwobr ar gyfer yr enillydd.
Cafwyd nifer fawr o gynigion gwych, ond yr enillydd oedd Ffion Roberts o Ysgol Beddgelert a feddyliodd am yr enw www.gwynedd-ni.org.uk Llongyfarchiadau mawr i Ffion!